Manylion y penderfyniad
Debate on the National Transport Plan
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am
16.29
NDM4902 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r Cynllun
Trafnidiaeth Cenedlaethol sydd wedi’i flaenoriaethu. Yn y cynllun hwn
ad-drefnwyd y gwaith o gyflawni’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a
gyhoeddwyd yn 2010, er mwyn canolbwyntio ar wneud i’r system drafnidiaeth
weithio’n well i helpu i fynd i’r afael â thlodi, gwella lles a hybu twf
economaidd.
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad oes gan y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol weledigaeth glir
ar gyfer cysylltu Cymru nac i leihau’r broblem gynyddol gyda thagfeydd ar
goridor yr M4.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
32 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu ei Chynllun Trafnidiaeth
Cenedlaethol, gan gydgysylltu â Llywodraeth y DU, er mwyn manteisio i’r eithaf
ar y cyllid sydd ar gael drwy’r rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
32 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu bod y cysylltiadau strategol rhwng y gogledd a’r de, a
gynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru’n Un, yn cael eu cadw yn y Cynllun
Trafnidiaeth Cenedlaethol ar ei newydd wedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
32 |
13 |
5 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi effaith y toriadau difrifol yng ngwariant cyfalaf Cymru ar
brosiectau trafnidiaeth a’r angen i Lywodraeth Cymru nodi ffynonellau
ychwanegol o gyfalaf at y diben hwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
14 |
50 |
Derbyniwyd
gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gwrthwynebu’r bwriad yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol i ‘gynyddu capasiti’r
gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru’ ar ôl 2015 ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ddatblygu strategaeth hedfan ehangach ar gyfer Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
32 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr darparwyr gwasanaeth trafnidiaeth gymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r trefniadau cyllido ar ôl mis Mawrth 2012 fel mater o frys.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
2 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant
6.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig:
NDM4902 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r Cynllun
Trafnidiaeth Cenedlaethol sydd wedi’i flaenoriaethu. Yn y cynllun hwn
ad-drefnwyd y gwaith o gyflawni’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a
gyhoeddwyd yn 2010, er mwyn canolbwyntio ar wneud i’r system drafnidiaeth
weithio’n well i helpu i fynd i’r afael â thlodi, gwella lles a hybu twf
economaidd.
Yn croesawu bod y cysylltiadau strategol rhwng y gogledd a’r de, a
gynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru’n Un, yn cael eu cadw yn y Cynllun
Trafnidiaeth Cenedlaethol ar ei newydd wedd.
Yn nodi effaith y toriadau difrifol yng ngwariant cyfalaf Cymru ar
brosiectau trafnidiaeth a’r angen i Lywodraeth Cymru nodi ffynonellau
ychwanegol o gyfalaf at y diben hwn.
Yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr darparwyr gwasanaeth trafnidiaeth
gymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r trefniadau cyllido ar ôl
mis Mawrth 2012 fel mater o frys.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 01/02/2012
Dyddiad y penderfyniad: 31/01/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 31/01/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad