Manylion y penderfyniad
Debate on European Programmes
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
16.31
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt c), dileu popeth ar ôl ‘ymhellach,’ a rhoi yn ei le:
‘a'r ffordd orau o wneud hynny yw drwy gyflawni Rhaglenni Ewropeaidd yn
effeithlon ac yn effeithiol a sicrhau'r budd mwyaf posibl i bobl Cymru'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
25 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod efallai nad yw polisi Ewropeaidd y DU er budd gorau Cymru ac yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r capasiti i gyflwyno sylwadau’n
uniongyrchol i sefydliadau’r UE.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
13 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r newid arfaethedig i fonitro canlyniadau yn hytrach nag
allbynnau a’r cyfle y gallai hyn ei greu i wella effaith y cylch nesaf o
ariannu strwythurol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl arian sy’n weddill yn y
cylch ariannu presennol yn cael ei dargedu at gynlluniau sy’n creu swyddi
cynaliadwy.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant
4.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4897 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) cynigion deddfwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer y Cronfeydd
Strwythurol a Rhaglenni Gwledig a Physgodfeydd;
b) ‘cyfnod ystyried’ Llywodraeth Cymru sy’n ceisio barn rhanddeiliaid
ynghylch y blaenoriaethau strategol ar gyfer y rhaglenni Ewropeaidd arfaethedig
yng Nghymru (2014–2020);
c) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gryfhau cysylltiadau Cymru â sefydliadau’r
UE ymhellach wrth ddatblygu a gweithredu ei Rhaglenni Ewropeaidd.
2. Yn cydnabod efallai nad yw polisi Ewropeaidd y DU er budd gorau Cymru ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r capasiti i gyflwyno sylwadau’n
uniongyrchol i sefydliadau’r UE.
3. Yn croesawu’r newid arfaethedig i fonitro canlyniadau yn hytrach nag
allbynnau a’r cyfle y gallai hyn ei greu i wella effaith y cylch nesaf o
ariannu strwythurol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl arian sy’n weddill yn
y cylch ariannu presennol yn cael ei dargedu at gynlluniau sy’n creu swyddi
cynaliadwy.
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
13 |
48 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 25/01/2012
Dyddiad y penderfyniad: 24/01/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/01/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad