Manylion y penderfyniad

Motion to amend Standing Orders - Standing Order 17: voting in a Committee of the Whole Senedd and responsibility for meeting access

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes, Y Cyfarfod Llawn

Statws: I'w ystyried

Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy

Diben:

Caiff gweithdrefnau'r Senedd eu rheoli gan ei Reolau Sefydlog. Mae'r rheolau hyn yn ystyried unrhyw ddarpariaethau perthnasol a nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

Caiff y Pwyllgor Busnes, sy'n cael ei gadeirio gan y Llywydd, ddewis gwneud argymhellion ynglŷn â gweithdrefn y Senedd, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer adolygu'r Rheolau Sefydlog.

Penderfyniadau:

Dechreuodd yr eitem am 15.39

NDM9032 Elin Jones (Ceredigion)  

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 17: pleidleisio mewn Pwyllgor o'r Senedd Gyfan a chyfrifoldeb am fynediad i gyfarfodydd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2025. 

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad 2 i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 06/11/2025

Dyddiad y penderfyniad: 05/11/2025

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/11/2025 - Y Cyfarfod Llawn