Manylion y penderfyniad
Bil Awtistiaeth (Cymru)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Statws: I'w ystyried
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Bil Aelod
Cynulliad a gyflwynwyd gan Paul
Davies AS. Roedd Paul Davies AS yn llwyddiannus mewn balot
deddfwriaethol ar 28 Mawrth 2017 a chafodd ganiatâd gan y Cynulliad
i fwrw ymlaen â’i Bil
ar 14 Mehefin 2017.
Mae’r Pwyllgor
Busnes wedi anfon y Bil at y Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.
Gwybodaeth am y Bil
Diben cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru) yw sicrhau y
caiff anghenion plant ac oedolion ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth (ASA) yng
Nghymru eu diwallu, a diogelu a hyrwyddo eu hawliau. Mae'r Bil yn cyflawni'r diben hwn fel a ganlyn:
- Cyflwyno strategaeth ar gyfer diwallu
anghenion plant ac oedolion yng Nghymru sydd â chyflyrau ASA, a fydd yn:
- hyrwyddo'r arferion gorau wrth wneud
diagnosis o ASA, ac asesu a chynllunio ar gyfer diwallu anghenion
gofal;
- sicrhau llwybr clir a chyson i wneud
diagnosis o ASA mewn ardaloedd lleol;
- sicrhau bod awdurdodau lleol a byrddau'r GIG
yn cymryd y camau angenrheidiol fel bod plant ac oedolion ag ASA yn cael
y diagnosis a'r cymorth amserol y mae arnynt eu hangen ar draws amryw
wasanaethau;
- cryfhau'r cymorth i deuluoedd a gofalwyr ac
yn sicrhau bod eu dymuniadau, a dymuniadau pobl ag ASA, yn cael eu
hystyried;
- hyrwyddo ymchwil, arloesedd a gwelliant mewn
gwasanaethau ar gyfer ASA;
- sefydlu arferion i hwyluso'r gwaith o gasglu
gwybodaeth ddibynadwy a pherthnasol am nifer y plant ac oedolion sydd â
chyflyrau ASA, a'u hanghenion, fel y gall Gweinidogion Cymru, cyrff lleol
a chyrff y GIG gynllunio yn unol â hynny;
- sicrhau bod staff allweddol sy'n gweithio
gyda phobl ag ASA yn cael hyfforddiant priodol mewn ASA;
- adolygu'r strategaeth a'r canllawiau yn
rheolaidd er mwyn sicrhau cynnydd.
- Ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru
ddyroddi canllawiau i'r cyrff perthnasol ar weithredu'r strategaeth.
- Ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru
gasglu data addas i hwyluso gweithrediad y Bil.
- Ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru
ymgymryd ag ymgyrch i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anhwylder
sbectrwm awtistiaeth.
Mae rhagor o
fanylion am y Bil yn y Memorandwm
Esboniadol cysylltiedig.
Mae eglurhad o gyfnodau amrywiol Biliau’r Cynulliad ar
gael yn y Canllaw
i gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.
.
Cyfnod Presennol
Cynhaliwyd dadl
ar yr egwyddorion cyffredinol ar 16 Ionawr 2019. Gwrthodwyd y cynnig i dderbyn
yr egwyddorion cyffredinol a gwrthodwyd y Bil gan y Cynulliad, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.14.
Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol
Cymru
Mae’r tabl a
ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Cyfnod |
Dogfennau |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyno'r Bil: 13 Gorffennaf 2018 |
Bil
Awtistiaeth (Cymru), fel y’i cyflwynwyd Datganiad
y Llywydd: 13 Gorffennaf 2018 Y
Pwyllgor Busnes - Amserlen ar gyfer ystyried Bil Awtistiaeth (Cymru) Datganiad Cyfarfod Llawn -
Cyflwyno Bil Awtistiaeth (Cymru): 18 Gorffennaf 2018 Datganiad
o Fwriad y Polisi – Bil Awtistiaeth (Cymru) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod 1 - Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol |
Bydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn trafod ei ddull o ran
ystyriaethau Cyfnod 1 ar 19 Gorffennaf 2018 Dyddiadau’r Pwyllgor Bydd y Pwyllgor Iechyd,
Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:
Gohebiaeth Weinidogol Adroddiad Cyfnod 1 y
Pwyllgor Gosododd y Pwyllgor ei adroddiad
ar 7 Rhagfyr 2018 Bydd y Pwyllgor Materion Allanol a
Deddfwriaeth Ychwanegol yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:
Bydd
y Pwyllgor
Cyllid yn ystyried y Bi lar y dyddiadau canlynol:
Llythryr
gan Paul Davies AC - Asesiad Effaith Rheoleiddiol – 31 Hydref 2018 (PDF, 51KB) Llythyr
gan Paul Davies AC – 16 Tachwedd 2018 (PDF, 150KB) Gosododd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad, Goblygiadau
ariannol y Bil Awtistiaeth (Cymru) (PDF, 280KB) ar 7 Rhagfyr 2018 Llythyr
gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Prif Weinidog - 7 Rhagfyr 2018 (PDF,
311KB) Llythyr
gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid - 20 Rhagfyr 2018
(PDF, 866KB) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod 1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion
cyffredinol |
Cynhaliwyd dadl ar yr egwyddorion cyffredinol ar
16 Ionawr 2019. Gwrthodwyd y cynnig i dderbyn yr egwyddorion cyffredinol a
gwrthodwyd y Bil gan y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 26.14. |
Gwybodaeth gyswllt
Rhif ffôn: 0300
200 6565
Cyfeiriad post:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd CF99 1NA
Ebost: Legislation@Senedd.Wales
Penderfyniadau:
2.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Paul Davies AC, yr Aelod sy'n gyfrifol am y
Bil.
Dyddiad cyhoeddi: 21/09/2018
Dyddiad y penderfyniad: 19/09/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/09/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd