Manylion y penderfyniad

Questions to the Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Statws: Wedi’i gwblhau

Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy

Diben:

Caiff Aelodau'r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i Ysgrifenyddion y Cabinet am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.

 

Bydd Ysgrifenyddion y Cabinet yn ateb cwestiynau unwaith bob pedair wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

 

Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

 

Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

Penderfyniadau:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gofynnwyd cwestiynau 2 - 11. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 3.

Dyddiad cyhoeddi: 02/02/2017

Dyddiad y penderfyniad: 01/02/2017

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/02/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Dogfennau Cefnogol: