Manylion y penderfyniad
Debate on Planning Policy for Economic Development
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 16.54
NDM4890 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud wrth ddiweddaru polisi cynllunio ar
gyfer datblygu economaidd.
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn cydnabod bod y system gynllunio’n
hanfodol ar gyfer economi gref ac felly’n gresynu wrth yr oedi ar ran
Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
Gyflwyno Bil Cynllunio Cymru yn gynharach
na’r hyn a nodwyd yn y Datganiad Deddfwriaethol, fel y gellir rhoi agwedd
strategol ond syml ar waith mewn canllawiau ar draws yr holl sectorau polisi er
mwyn gwella'r economi a lles pobl Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
36 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei Bil Cynllunio’n gynharach nag a nodwyd yn ei
datganiad deddfwriaethol, ac i ymgynghori’n eang arno, er mwyn helpu i ddiwallu
anghenion datblygu economaidd.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
29 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig:
NDM4890 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud wrth ddiweddaru polisi cynllunio ar
gyfer datblygu economaidd.
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
12 |
55 |
Derbyniwyd y
cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 17/01/2012
Dyddiad y penderfyniad: 17/01/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/01/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad