Manylion y penderfyniad
Debate on Creating Safer Communities for all - Improving the quality of life for the people of Wales
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 15.58
NDM4889 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r gwaith sydd wedi’i gyflawni gan Lywodraeth Cymru a’r asiantaethau
sy’n bartner iddi i hybu’r agenda Diogelwch Cymunedol ac i greu Cymru ddiogelach
i bawb.
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu popeth ar ôl “iddi” a rhoi yn ei le:
ar yr agenda Diogelwch Cymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy
i wella diogelwch cymunedol yng Nghymru, gan ymgysylltu’n llawn â phartneriaid
i hybu agenda gynhwysol a chreu Cymru ddiogelach i bawb.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
29 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’n benodol gyfraniad cadarnhaol cynghorau lleol i wella diogelwch cymunedol,
er enghraifft drwy gyllido Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a chyflwyno
cynlluniau gosod gatiau.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
54 |
1 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:
ond yn credu y byddai hyn yn gwella eto fyth petai plismona’n cael ei
ddatganoli i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
41 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig:
NDM4889 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r gwaith sydd wedi’i gyflawni gan Lywodraeth Cymru a’r asiantaethau
sy’n bartner iddi i hybu’r agenda Diogelwch Cymunedol ac i greu Cymru
ddiogelach i bawb.
Yn nodi’n benodol gyfraniad cadarnhaol cynghorau lleol i wella diogelwch
cymunedol, er enghraifft drwy gyllido Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a
chyflwyno cynlluniau gosod gatiau.
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 18/01/2012
Dyddiad y penderfyniad: 17/01/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/01/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad