Manylion y penderfyniad
Supplementary Legislative Consent Motion (No. 2) on the Children and Social Work Bill
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cafodd y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol ei gyflwyno yn Nhŷ’r
Arglwyddi ar 19 Mai 2016. Bil Llywodraeth y DU ydoedd, ac fe’i noddwyd gan yr
Adran dros Addysg. Roedd y Bil yn ymwneud â phlant sy'n derbyn gofal, lles
plant, a’r drefn reoleiddio ar gyfer gweithwyr cymdeithasol.
Roedd y Bil yn ddarostyngedig
i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Dilynir y broses hon mewn
achosion lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd
Cymru i ddeddfu ar fater a allai
ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol (PDF, 18KB) ar 13 Hydref 2016. Ar 18 Hydref
2016, cafodd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn ei gyfeirio
gan y Pwyllgor Busnes (PDF, 52KB) at y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w drafod. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno
adroddiad arno oedd 24 Tachwedd 2016. Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc
ac Addysg ei adroddiad
ar y Memorandwm (PDF, 355KB) ar 22 Tachwedd
2016. Cytunwyd ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil yn y
Cyfarfod Llawn ar 29 Tachwedd
2016.
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Plant a Gwaith
Cymdeithasol (PDF, 20KB) ar 10 Tachwedd
2016. Ar 15 Tachwedd 2016, cafodd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol
hwn ei gyfeirio
gan y Pwyllgor Busnes (PDF, 51KB) at y Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Y dyddiad cau ar gyfer
cyflwyno adroddiad arno oedd 8 Rhagfyr 2016. Cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd,
Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ei adroddiad (PDF, 104KB) ar y Memorandwm
atodol ar 5 Rhagfyr 2016. Cytunwyd ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol atodol
ar gyfer y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Rhagfyr
2016.
Penderfyniadau:
Dechreuodd yr eitem am 17.50
NDM6184 Rebecca Evans (Gŵyr):
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol, sy'n ymwneud â
gwahardd cyflogwr perthnasol rhag gwahaniaethu yn erbyn person sy'n gwneud cais
am swydd gofal cymdeithasol i blant am ei bod yn ymddangos i'r cyflogwr bod yr
ymgeisydd wedi gwneud datgeliad gwarchodedig, i'r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 14/12/2016
Dyddiad y penderfyniad: 13/12/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/12/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd