Manylion y penderfyniad
Consideration of Wales Bill
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd, Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd, Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cyhoeddwyd Bil Cymru gan Lywodraeth y DU ar
7 Mehefin 2016. Prif bwrpas y Bil oedd diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006
er mwyn sicrhau bod proses ddeddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn symud tuag
at fodel cadw pwerau. Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i’r Bil ar ffurf Deddf Cymru
2017 ar 31 Ionawr 2017.
Cytunodd y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol* i wneud gwaith craffu ar Fil Cymru, i
drafod unrhyw faterion oedd yn berthnasol i'r Bil, a gyflwynwyd gan Lywodraeth
y DU yn Nhŷ'r Cyffredin ar 7 Mehefin 2016, ac i gyflwyno adroddiad arnynt.
Yn benodol, ystyriodd y Pwyllgor y graddau:
(i)
roedd y Bil Cymru
drafft wedi'i ddiwygio yn dilyn gwaith craffu cyn deddfu i gynnwys y
canlynol:
- cael gwared ar y prawf angenrheidrwydd neu ei
gyfnewid am brawf sy'n seiliedig ar briodoldeb;
- cael system
i’w gwneud yn ofynnol cael cydsyniad Gweinidogion y Goron, sy'n
adlewyrchu'r model yn Neddf yr Alban 1998;
- lleihau'n
sylweddol nifer a graddfa'r cymalau cadw a'r cyfyngiadau penodol fel sy'n
addas i ddeddfwrfa aeddfed, effeithiol ac atebol;
- cael
awdurdodaeth ar wahân lle byddai Deddfau Cymru yn gymwys i Gymru yn
unig;
- cael system
lle mae Deddfau Cymreig yn addasu cyfraith droseddol a phreifat fel y bo'n
briodol ar gyfer gorfodaeth resymol; a
- chael
ymrwymiad clir y bydd cydgrynhoi dwyieithog yn cael ei wneud yn ystod y
Senedd bresennol.
(ii)
y mae’r model cadw pwerau arfaethedig o
gymhwysedd deddfwriaethol yn glir, yn gydlynol ac yn ymarferol, ac yn darparu
fframwaith cryf i alluogi'r Cynulliad
i ddeddfu o'i fewn.
Cyflwynodd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol y Pedwerydd Cynulliad adroddiad (PDF, 683KB) ar Fil Cymru drafft Llywodraeth y DU ym mis Rhagfyr 2015.
Tystiolaeth gan y Cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus
i gasglu tystiolaeth ac i glywed eich
barn.
Ar 11
Gorffennaf, lansiwyd y Pwyllgor dadl fyw ar Loomio.
Roedd y platfform yma yn gyfle i randdeiliaid a’r
Pwyllgor ddod at ei gilydd i drafod, dadlau a rhannu syniadau ar y Bil wrth
iddo fynd drwy Senedd y DU.
Adroddiad
y Pwyllgor
Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad
(PDF, 1MB) ym mis Hydref 2016. Mae llyfryn
atodol (PDF, 11MB) yn cynnwys yr holl atebion i’r ymgynghoriad ar gael
hefyd. Gallwch hefyd ddarllen fersiwn cryno o’n hadroddiad.
Cyfarfu’r Pwyllgor â Phwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r
Arglwyddi ar 12 Hydref i drafod y Bil.
Dadl
yn y Cyfarfod Llawn
Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y
Pwyllgor ar ddydd Mercher
19 Hydref. Gallwch wylio’r ddadl eto ar Senedd.tv
a gallwch hefyd ddarllen Cofnod
y Trafodion.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cymru [PDF, 346KB] a datganiad
ysgrifenedig [PDF, 120KB]
ategol ddydd Llun 21 Tachwedd 2016. Cyfeiriodd y
Pwyllgor Busnes y
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol ar 22 Tachwedd 2016, gyda therfyn amser ar gyfer
cyflwyno adroddiad ar 12 Ionawr 2017.
Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad
(PDF, 185KB) ar 13 Rhagfyr 2016.
Wedi hynny cyflwynodd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol [PDF, 169KB] a datganiad
ysgrifenedig [PDF, 242KB] ar 10 Ionawr 2017 a Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Diwygiedig [PDF, 30KB] ar 13 Ionawr
2017 a dynnwyd yn ôl ac a ailgyflwynwyd
[PDF, 174KB] ar 16 Ionawr 2017. Ni chafodd y memoranda cydsyniad
deddfwriaethol atodol hyn ei drafod gan y Pwyllgor.
Ystyriodd y Cynulliad y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol
ar y Bil yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 17 Ionawr 2017.
Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i’r Bil ar 31 Ionawr 2017.
Penderfyniadau:
5.1 Cynhaliodd Aelodau'r Pwyllgor sesiwn strategaeth i drafod y flaenraglen
waith a blaenoriaethau’r Pwyllgor yn y Pumed Cynulliad.
Dyddiad cyhoeddi: 06/10/2016
Dyddiad y penderfyniad: 22/09/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/09/2016 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd
Dogfennau Cefnogol:
- Cyfyngedig