Manylion y penderfyniad
Debate on European Programmes
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.00
NDM4882 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r cyfraniad
cadarnhaol y mae
Rhaglenni Ewropeaidd cyfredol a blaenorol yn ei wneud
ac wedi’i wneud;
2. Yn croesawu’r rôl
hanfodol y mae
arian Ewropeaidd, gan gynnwys y Polisi
Amaethyddol Cyffredin a’r Cronfeydd Strwythurol,
yn ei chwarae
o ran cefnogi economi
Cymru;
3. Yn cydnabod bod chwarae rhan lawn a rhagweithiol o fewn yr UE yn dod â manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ar wahân i’r rheini
sy’n deillio o’r Rhaglenni Ewropeaidd;
4. Yn nodi â phryder
benderfyniad Llywodraeth y
DU i arfer ei feto yn ystod
trafodaethau’r UE ym Mrwsel ar 9 Rhagfyr
2011ac yn annog Llywodraeth y DU i weithio mewn ffordd adeiladol
gydag Aelod-wladwriaethau eraill i sicrhau bod y DU yn mynd ati
unwaith eto i chwarae rôl ganolog
yn yr UE er mwyn hybu
buddiannau ehangach Cymru a
rhannau eraill y DU wrth lunio polisi
a gweinyddu Rhaglenni Ewropeaidd, yn ogystal ag wrth
ddatblygu ymhellach bolisïau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol Ewropeaidd.
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu bod un Llywodraeth Cymru ar ôl
y llall wedi methu â manteisio i’r eithaf ar botensial rhaglenni’r UE a bod
rhannau o Gymru’n dal i fod ymysg y tlotaf yn yr Undeb Ewropeaidd.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
40 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 -
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi’r cyfraniad pwysig a wnaethpwyd gan Raglenni Ewropeaidd ac yn
cydnabod ymhellach bwysigrwydd y farchnad Ewropeaidd i’n heconomi, gyda 39.9 y
cant o allforion Cymru yn mynd i wledydd yr UE.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ym mhwynt 1 ar ôl ‘wedi’i wneud’ rhoi ‘ond hefyd yn nodi methiant
Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r rhaglenni hynny’n effeithiol i wella ffyniant
economaidd cymharol Cymru’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
30 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 -
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu buddiannau cenedlaethol Cymru
mewn cysylltiad â’r trafodaethau ar raglenni Ewropeaidd a pholisi Ewropeaidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
4. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i arfer ei feto yn ystod y
trafodaethau ym Mrwsel ar 9 Rhagfyr 2011 ac yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth y
DU i weithredu er budd gorau pobl Cymru a Phrydain yn nhrafodaethau cyllido’r
UE.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
45 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant
5.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ym mhwynt 4 dileu ‘yn mynd ati unwaith eto i chwarae’ a rhoi ‘yn chwarae’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy
Llywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly,
gwrthodwyd y gwelliant.
Gwrthodwyd gwelliant
6.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU mewn ffordd adeiladol er mwyn
gweithio er budd cenedlaethol Cymru ac i fanteisio i’r eithaf ar fuddiannau
rhaglenni’r UE i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant
7.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig:
NDM4882 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
nodi’r cyfraniad pwysig a wnaethpwyd gan Raglenni Ewropeaidd ac yn cydnabod
ymhellach bwysigrwydd y farchnad Ewropeaidd i’n heconomi, gyda 39.9 y cant o
allforion Cymru yn mynd i wledydd yr UE;
2. Yn croesawu’r rôl
hanfodol y mae
arian Ewropeaidd, gan gynnwys y Polisi
Amaethyddol Cyffredin a’r Cronfeydd Strwythurol,
yn ei chwarae
o ran cefnogi economi
Cymru;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu buddiannau cenedlaethol
Cymru mewn cysylltiad â’r trafodaethau ar raglenni Ewropeaidd a pholisi
Ewropeaidd;
4. Yn cydnabod bod chwarae rhan lawn a rhagweithiol o fewn yr UE yn dod â manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ar wahân i’r rheini
sy’n deillio o’r Rhaglenni Ewropeaidd;
5. Yn nodi â phryder
benderfyniad Llywodraeth y
DU i arfer ei feto yn ystod
trafodaethau’r UE ym Mrwsel ar 9 Rhagfyr
2011ac yn annog Llywodraeth y DU i weithio mewn ffordd adeiladol
gydag Aelod-wladwriaethau eraill i sicrhau bod y DU yn mynd ati
unwaith eto i chwarae rôl ganolog
yn yr UE er mwyn hybu
buddiannau ehangach Cymru a
rhannau eraill y DU wrth lunio polisi
a gweinyddu Rhaglenni Ewropeaidd, yn ogystal ag wrth
ddatblygu ymhellach bolisïau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol Ewropeaidd.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU mewn ffordd
adeiladol er mwyn gweithio er budd cenedlaethol Cymru ac i fanteisio i’r eithaf
ar fuddiannau rhaglenni’r UE i Gymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
11 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 11/01/2012
Dyddiad y penderfyniad: 10/01/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/01/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad