Manylion y penderfyniad

Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Mae gofyn i’r Cynulliad enwebu Prif Weinidog o fewn 28 niwrnod ar ôl etholiad Cynulliad.

 

Gellir enwebu Aelod i’w benodi’n Brif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn cyntaf ar ol etholiad neu yn ystod unrhyw Gyfarfod Llawn wedi hynny, yn amodol ar benderfyniad y Cynulliad i wneud hynny. Bydd y Llywydd yn gwahodd y Cynulliad i gytuno y caiff enwebiadau eu gwneud. Os bydd Aelod yn gwrthwynebu, cynhelir pleidlais electronig. Bydd trafodion enwebu’n digwydd dim ond os bydd mwyafrif yr Aelodau sy’n pleidleisio yn cytuno a hynny.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.01.

 

Penderfynodd y Cynulliad gymryd enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog, yn unol â Rheol Sefydlog 12.11.

 

Gwahoddodd y Llywydd enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog yn unol â Rheol Sefydlog 8.2.

 

Cafodd Carwyn Jones ei enwebu gan Jane Hutt.

 

Cafodd Leanne Wood ei henwebu gan Rhun ap Iorwerth.

 

Gan fod dau enwebiad, cynhaliwyd pleidlais drwy alw cofrestr yr Aelodau. Gwahoddodd y Llywydd bob Aelod a oedd yn bresennol i bleidleisio dros ymgeisydd.  Cafodd Aelodau eu galw yn nhrefn yr wyddor. Yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, ni chaniatawyd i’r Llywydd na’r Dirprwy Lywydd bleidleisio.

 

Canlyniad y bleidlais oedd:

Carwyn Jones

 

Leanne Wood

Ymatal

Cyfanswm

29

29

0

58

[gweler y crynodeb o’r pleidleisiau i gael y canlyniad llawn]

Gan fod y pleidleisiau rhwng y ddau ymgeisydd yn gyfartal, ataliodd y Llywydd y cyfarfod am 15.09.

 

Ailymgynullodd y cyfarfod am 15.47. Cyhoeddodd y Llywydd, gan ei bod yn amlwg na fyddai cynnal pleidlais arall drwy alw’r gofrestr yn arwain at ganlyniad pendant, ei bod yn gohirio’r cyfarfod ac yn dwyn y trafodion i ben.

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.8, bydd y Llywydd yn sicrhau y caiff yr Aelodau eu hysbysu o ddyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.

Dyddiad cyhoeddi: 12/05/2016

Dyddiad y penderfyniad: 11/05/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/05/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd