Manylion y penderfyniad

Ethol Llywydd o dan Reol Sefydlog 6

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Statws: I'w ystyried

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

6.1 Yn ei gyfarfod cyntaf ar ôl etholiad Cynulliad, rhaid i’r Cynulliad ethol Llywydd a Dirprwy o blith ei Aelodau.

 

6.2 Os daw swydd y Llywydd neu swydd y Dirprwy yn wag, rhaid i’r Cynulliad ethol Aelod cyn gynted â phosibl i lenwi'r swydd wag. Mae ethol Llywydd yn cymryd blaenoriaeth dros bob busnes arall.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gwahoddodd y Llywydd (Y Fonesig Rosemary Butler) enwebiadau yn unol â Rheol Sefydlog 6.6.

 

Cafodd Elin Jones ei henwebu gan Dai Lloyd.

Eiliodd Jane Hutt yr enwebiad.

 

Cafodd Dafydd Elis-Thomas ei enwebu gan Adam Price.

Eiliodd Neil Hamilton yr enwebiad.

 

Gwahoddodd y Llywydd yr ymgeiswyr i annerch y Cynulliad.

 

Gan fod dau enwebiad, cynhaliwyd pleidlais gudd yn unol â Rheol Sefydlog 6.8.

 

Canlyniad y bleidlais gudd oedd:

Elin Jones

 

Dafydd Elis-Thomas

Ymatal

Cyfanswm

34

25

1

60


 Cyhoeddodd y Llywydd fod Elin Jones wedi’i hethol yn Llywydd.

 

Daeth Elin Jones i’r Gadair ac annerch y Cynulliad.

Dyddiad cyhoeddi: 12/05/2016

Dyddiad y penderfyniad: 11/05/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/05/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd