Manylion y penderfyniad
Debate on the Communities, Equality and Local Government Committee's report on its inquiry into the BBC Charter Review
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Er gwybodaeth
Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy
Diben:
Ymchwiliad i drafod goblygiadau adolygiad Siarter y BBC i
Gymru, gan ganolbwyntio ar y materion a ganlyn:
- Y ddarpariaeth o ran gwasanaethau’r BBC yng
Nghymru yn y dyfodol, a hynny yn y Gymraeg a’r Saesneg;
- Trefniadau cyllido, llywodraethu ac
atebolrwydd y BBC ar hyn o bryd ac yn y dyfodol mewn perthynas â Chymru;
- Dyfodol S4C, gan gynnwys ei threfniadau
cyllido, gweithredu a llywodraethu a’r gwasanaeth y mae’n ei ddarparu;
- Sut y mae diddordebau Cymru yn cael eu
cynrychioli yn ystod y broses adnewyddu.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol galwad
am dystiolaeth, a ddaeth i ben ddydd Gwener 30 Hydref 2015.
Yr
amserlen o ran tystiolaeth lafar
Adroddiad
ar yr Adolygiad o Siarter y BBC – Mawrth 2016
Adroddiad
ar yr Adolygiad o Siarter y BBC – Mawrth 2016 - Crynodeb o gasgliadau ac
argymhellion
Ymatebodd y
Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i adroddiad y Pwyllgor yn
y ddadl
yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Mawrth 2016.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.46
NDM6009 Christine Chapman (Cwm Cynon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol ar yr ymchwiliad i'r Adolygiad o Siarter y BBC, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016.
2. Yn cytuno y dylai'r BBC, os yw'n derbyn argymhelliad y
pwyllgor, osod adroddiadau blynyddol a datganiadau archwiliedig o gyfrifon
gerbron y Cynulliad.
Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 17/03/2016
Dyddiad y penderfyniad: 16/03/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad