Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4876 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i uno Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru yn un Corff Amgylcheddol.
2. Yn credu na fu digon o graffu ar achos busnes Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r uno arfaethedig.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) Gohirio’r uno arfaethedig nes ei fod wedi bod yn destun craffu cyhoeddus llawn; a
b) Rhoi sylw i bryderon difrifol y sector coedwigaeth ynglyn â chynnwys Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn yr uno.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
42 |
52 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Yn croesawu penderfyniad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gynnal ymchwiliad trwyadl i achos busnes Llywodraeth Cymru ynghylch y cynnig i uno Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru yn Un Corff Amgylcheddol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
11 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio::
NDM4876 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu penderfyniad
y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gynnal ymchwiliad trwyadl i achos busnes Llywodraeth
Cymru ynghylch y cynnig i uno Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad
Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth
Cymru yn Un Corff Amgylcheddol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 08/12/2011
Dyddiad y penderfyniad: 07/12/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/12/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad