Manylion y penderfyniad

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.39

Cafodd y trafodion eu hatal dros dro gan y Dirprwy Lywydd am 15.53 oherwydd i doriad trydan effeithio ar y Siambr. Cafodd y gloch ei chanu 5 munud cyn ailgynnull am 16.14.

Cafodd y trafodion eu hatal dros dro am yr eildro am 16.23 am 30 munud oherwydd ail doriad trydan. Cafodd y gloch ei chanu 5 munud cyn ailgynnull am 16.55.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5983 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at y ffaith bod nifer o ysbytai yng Nghymru wedi cael eu cau neu wedi wynebu colli gwasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru yn y dyfodol i warantu na fydd unrhyw ysbytai'n cael eu cau yn ystod y pumed Cynulliad.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

31

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai Llywodraeth nesaf Cymru gychwyn a chyflwyno cynllun ar gyfer cynnydd sylweddol yn nifer y meddygon fel y gellir darparu gwasanaethau yn lleol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

23

45

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru yn 2014 a oedd yn galw am 'ail-rymuso a bywiogi'r ysbyty gymunedol a gwasanaethau yn y gymuned' ac yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddarparu mwy o wasanaethau iechyd mewn cymunedau ledled Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

0

46

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5983 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at y ffaith bod nifer o ysbytai yng Nghymru wedi cael eu cau neu wedi wynebu colli gwasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru yn y dyfodol i warantu na fydd unrhyw ysbytai'n cael eu cau yn ystod y pumed Cynulliad.

3. Yn nodi Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru yn 2014 a oedd yn galw am 'ail-rymuso a bywiogi'r ysbyty gymunedol a gwasanaethau yn y gymuned' ac yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddarparu mwy o wasanaethau iechyd mewn cymunedau ledled Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

24

47

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 03/03/2016

Dyddiad y penderfyniad: 02/03/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad