Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.36
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5976 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd rhoi'r grym i unigolion
a grwpiau cymunedol fynd i'r afael â materion o bwys lleol;
2. Yn croesawu'r ymgyrch i sbarduno refferendwm ar
gyfer cyflwyno maer a etholir yn uniongyrchol i Gaerdydd ac yn nodi'r rhan y
gallai rôl debyg ei chwarae ledled Cymru o ran gwella democratiaeth,
atebolrwydd a'r broses o wneud penderfyniadau ar y lefel leol;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i
feithrin cenedl o ddinasyddion gweithgar a gwybodus sy'n cymryd rhan ac yn
ymgysylltu drwy:
(a) cyflwyno refferenda ar gynlluniau arfaethedig i
uno cynghorau a chynyddu treth gyngor awdurdodau lleol uwchlaw trothwy penodol
fel bod unigolion yn cael mwy o lais mewn perthynas â sut y caiff
penderfyniadau eu gwneud yn eu hardal;
(b) cyflwyno pwerau newydd i wella'r broses o
gynnwys unigolion mewn penderfyniadau lleol allweddol, fel yr hawl gymunedol i
wneud cais a'r hawl gymunedol i herio, oll o dan agenda hawliau cymunedol; ac
(c) gostwng y trothwy ar gyfer deiseb i sbarduno
refferendwm ar feiri a etholir yn uniongyrchol mewn ardal.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
37 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones
(Ceredigion)
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
Yn credu bod cynigion Plaid Cymru ar gyfer
ymgysylltu lleol, a nodir yn y papur ar ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus, yn
darparu sail gadarnhaol i gyrraedd y nod o rymuso unigolion yn y Cynulliad
nesaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
8 |
0 |
40 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
8 |
35 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 3(a) a rhoi yn ei le:
cyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer
etholiadau llywodraeth leol er mwyn sicrhau bod cynghorwyr yn fwy atebol i'w
hetholwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
35 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gan fod y Cynulliad wedi
gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig,
gwrthodwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 25/02/2016
Dyddiad y penderfyniad: 24/02/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/02/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad