Manylion y penderfyniad
Debate on the Enterprise and Business Committee report on its inquiry into Rugby World Cup Transport Planning
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad
un-tro i gynlluniau trafnidiaeth yng Nghaerdydd ar gyfer gemau Cwpan Rygbi'r
Byd yn 2015. Edrychodd y Pwyllgor ar y broses o gynllunio ar gyfer Cwpan
Rygbi'r Byd; adroddiadau am giwiau sylweddol a gorlenwi ar wasanaethau trên,
gan gynnwys y rhesymau dros hyn a’i effaith; pa mor briodol ac effeithiol oedd
y drafnidiaeth gyhoeddus a ddarparwyd ar gyfer y digwyddiadau’n fwy cyffredinol
(er enghraifft gwasanaethau bysiau a thacsis a seilwaith); pa mor effeithiol
oedd y systemau cyfathrebu mewn perthynas â’r digwyddiadau; unrhyw bryderon
ynghylch diogelwch y cyhoedd neu bryderon eraill a gododd wrth drefnu’r
digwyddiadau hyn ac unrhyw wersi a ddysgwyd a fydd o gymorth wrth drefnu
digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.00
NDM5943 William Graham
(Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei
Ymchwiliad i Gynlluniau Trafnidiaeth yn ystod cwpan Rygbi'r Byd, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 2 Rhagfyr 2015.
Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 04/02/2016
Dyddiad y penderfyniad: 03/02/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/02/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad