Manylion y penderfyniad

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.11

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5934 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi setliad llywodraeth leol drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17;

2. Yn gresynu at gynigion i dorri'n sylweddol y cyllid a delir i nifer o awdurdodau lleol sydd wedi eu lleoli mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru ac yn mynegi pryder ynghylch yr effaith y gallai hyn ei gael ar wasanaethau cyhoeddus lleol a chyfraddau'r dreth gyngor;

3. Yn gresynu ymhellach at fethiant Llywodraeth Cymru i ymgysylltu'n ddigonol â llawer o awdurdodau lleol gwledig ledled Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch effaith setliad llywodraeth leol 2016-17, sydd wedi arwain at ansicrwydd mawr mewn sawl rhan o Gymru; a

4. Yn credu bod archwilio'r fformiwla sy'n dyrannu cyllid llywodraeth leol yng Nghymru yn angenrheidiol i sicrhau na fydd setliadau Llywodraeth Cymru  yn cael effaith anghymesur ar lawer o awdurdodau lleol ledled Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

33

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn galw am gyflwyno, yn y setliad hwn, y grant sefydlogi gwledig a gynigiwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn credu bod diwygio llywodraeth leol yn gyfle i gytuno ar fformiwla ariannu newydd sy'n ystyried tegwch, amddifadedd a theneurwydd poblogaeth ac sy'n cael ei chyflwyno dros gylch ariannu tair blynedd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

35

48

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

Dyddiad cyhoeddi: 28/01/2016

Dyddiad y penderfyniad: 27/01/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/01/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad