Manylion y penderfyniad

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.10

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5920 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi canfyddiadau'r adroddiad interim ar yr Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru, sy'n datgan nad yw'r system bresennol yn gynaliadwy, gan adleisio galwadau gan Brifysgolion Cymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac Undeb y Colegau a Phrifysgolion;

2. Yn cydnabod, fel y nodwyd yn yr adroddiad interim, fod angen i Lywodraeth Cymru "ailystyried y polisi grant ffioedd dysgu" yng Nghymru; a

3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ailfodelu cyllid addysg uwch yng Nghymru, gan weithredu polisi mwy cynaliadwy a chynnig mwy o flaenoriaeth i system gynyddol o gefnogi costau byw.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

36

53

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi adroddiad polisi Democratiaid Rhyddfrydol Cymru o 2013, 'Fairness and Freedom in Higher Education', sy'n galw am grant cymorth byw i fyfyrwyr, er mwyn symud ffocws cymorth y llywodraeth o ryddhad o ddyledion ffioedd dysgu i gefnogaeth ar gyfer costau byw, fel ffordd decach a mwy effeithiol o sicrhau nad yw cyllid yn rhwystr i addysg uwch.Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

13

35

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi adroddiad polisi Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, 'Punt yn Eich Poced', a ganfu fod 58 y cant o fyfyrwyr yn poeni'n rheolaidd am beidio â chael digon o arian i gwrdd â'u costau byw sylfaenol fel rhent neu filiau cyfleustodau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ar ddiwedd pwynt 3, mewnosoder:

'fel drwy gyflwyno grant cymorth byw i fyfyrwyr.'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

13

35

53

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn condemnio'r toriad difrifol i gyllid Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru  yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-2017, sy'n dod o ganlyniad uniongyrchol i bolisi ffioedd cyfredol Llywodraeth Cymru. Yn credu bod hyn yn debygol o arwain at doriadau niweidiol mewn cymorth i fyfyrwyr rhan-amser, ymchwil, pynciau cost uchel a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5920 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi canfyddiadau'r adroddiad interim ar yr Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru, sy'n datgan nad yw'r system bresennol yn gynaliadwy, gan adleisio galwadau gan Brifysgolion Cymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac Undeb y Colegau a Phrifysgolion;

2. Yn nodi adroddiad polisi Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, 'Punt yn Eich Poced', a ganfu fod 58 y cant o fyfyrwyr yn poeni'n rheolaidd am beidio â chael digon o arian i gwrdd â'u costau byw sylfaenol fel rhent neu filiau cyfleustodau;

3. Yn cydnabod, fel y nodwyd yn yr adroddiad interim, fod angen i Lywodraeth Cymru "ailystyried y polisi grant ffioedd dysgu" yng Nghymru; a

4. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ailfodelu cyllid addysg uwch yng Nghymru, gan weithredu polisi mwy cynaliadwy a chynnig mwy o flaenoriaeth i system gynyddol o gefnogi costau byw.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.

 

Dyddiad cyhoeddi: 21/01/2016

Dyddiad y penderfyniad: 20/01/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/01/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad