Manylion y penderfyniad
Dadl ar yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2014 - 2015
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 17.59
NDM5919 Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r Adroddiad
Blynyddol ar Gydraddoldeb 2014-2015.
Cyflwynwyd y
Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad
yw toriadau i'r gyllideb cymunedau a threchu tlodi yn cael effaith andwyol ar
gynnydd o ran creu cymunedau mwy cydlynol a chynhwysol yng Nghymru.
Derbyniwyd y
gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 2 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder y toriad arfaethedig o 68
y cant mewn cyllid craidd i Anabledd Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Fel sy’n ofynnol o
dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 3 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod cymhelliad hiliol i ychydig
dros dri chwarter o'r troseddau casineb a adroddwyd i heddluoedd Cymru yn
2012-2013.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir
Benfro)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y
ffaith mai dim ond 13 y cant o blant sy'n Sipsiwn/Sipsiwn Roma a 17 y cant o
blant sy'n derbyn gofal a gyflawnodd TGAU graddau A* i C, mewn mathemateg a
naill ai Saesneg neu Gymraeg fel iaith gyntaf yn 2014.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y Gweinidog
i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y cynnydd a wnaed o ran gwella
gwasanaethau dysfforia rhywedd yng Nghymru, ac yn galw am astudiaeth ddichonolrwydd
annibynnol i sefydlu clinig hunaniaeth rhywedd yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud at
recriwtio dienw yn y sector cyhoeddus pan fo hynny'n bosibl fel bod pobl yn
cael eu barnu ar eu gallu gwirioneddol i wneud swydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5919 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r Adroddiad
Blynyddol ar Gydraddoldeb 2014-2015.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau
nad yw toriadau i'r gyllideb cymunedau a threchu tlodi yn cael effaith andwyol
ar gynnydd o ran creu cymunedau mwy cydlynol a chynhwysol yng Nghymru.
3. Yn nodi bod cymhelliad hiliol i ychydig
dros dri chwarter o'r troseddau casineb a adroddwyd i heddluoedd Cymru yn
2012-2013.
4. Yn gresynu at y ffaith mai dim ond 13 y
cant o blant sy'n Sipsiwn/Sipsiwn Roma a 17 y cant o blant sy'n derbyn gofal a
gyflawnodd TGAU graddau A* i C, mewn mathemateg a naill ai Saesneg neu Gymraeg
fel iaith gyntaf yn 2014.
5. Yn galw ar y
Gweinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y cynnydd a wnaed o ran
gwella gwasanaethau dysfforia rhywedd yng Nghymru, ac yn galw am astudiaeth
dichonolrwydd annibynnol i sefydlu clinig hunaniaeth rhywedd yng Nghymru.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud at
recriwtio dienw yn y sector cyhoeddus pan fo hynny'n bosibl fel bod pobl yn
cael eu barnu ar eu gallu gwirioneddol i wneud swydd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 20/01/2016
Dyddiad y penderfyniad: 19/01/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad