Manylion y penderfyniad
P-04-662 It is Hard to Conceive What Life Would Have Become Without my Support Worker
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: I'w ystyried
Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy
Diben:
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Lisa Pritchard ar ôl casglu
664 llofnod.
Geiriad
y ddeiseb
Ar ôl dwy flynedd o gymorth caled, heriol ac eto, a
roddodd foddhad, gan fy ngweithiwr cymorth, rwyf heddiw'n astudio yn y
Brifysgol ac yn byw bywyd sy'n llawn cariad, gobaith, hapusrwydd a chwerthin.
Rwy'n ceisio rhoi fy hun mewn sefyllfa lle gallaf roi bywyd da i fy
nheulu. Fy ngweithiwr cymorth yw fy
nghadarnhad dyddiol i 'Fyw fy Mreuddwydion' o hyd.
Noddir y swydd gan y Rhaglen Cefnogi Pobl. Heb y rhaglen, ni fyddwn i a fy nheulu wedi
cael y cymorth hwnnw a newidiodd ac a achubodd ein bywydau.
Hoffwn i Gymru gyfan wybod beth mae arian Cefnogi Pobl yn
ei wneud. Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i'w gefnogi ac ymrwymo i'w
ddiogelu yn y dyfodol, fel y bydd miloedd o bobl yng Nghymru yn cael yr un math
o gymorth i arbed eu bywydau ag y cefais i.
Rwy'n ddiolchgar o'r Rhaglen Cefnogi Pobl. Bu o gymorth i
arbed fy mywyd i. Os ydych am sicrhau y bydd yr un cymorth ar gael i eraill bob
amser, llofnodwch fy neiseb.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
• Conol Caerdydd
•Canol De Cymru
Penderfyniadau:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros i glywed
barn y deisebydd ar lythyr y Gweinidog.
Dyddiad cyhoeddi: 02/02/2016
Dyddiad y penderfyniad: 19/01/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad
Dogfennau Cefnogol: