Manylion y penderfyniad
P-04-661 Prohibit Online Use and Electronic Voting by Assembly Members in the Chamber
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Statws: I'w ystyried
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sovereign Wales
Geiriad
y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Aelodau'r Cynulliad yn cael eu gwahardd rhag defnyddio'r
rhyngrwyd yn ystod sesiynau yn y Senedd, ac i sicrhau bod pleidleisio yn y
Senedd yn cael ei wneud drwy ddangos dwylo, ar lafar neu ddefnyddio papur
pleidleisio.
Gwybodaeth
ychwanegol
Mae yna ofid y gall defnyddio'r rhyngrwyd yn ystod
trafodaethau yn y Senedd effeithio'n negyddol ar uniondeb trafodaethau
gwleidyddol a deddfwriaeth yng Nghymru. Dylai Aelodau'r Cynulliad
ganolbwyntio'n llawn ar sesiynau trafod. Os nad yw Aelodau'r Cynulliad yn talu
sylw i drafodaethau yn y Senedd, sut y gallwn ddibynnu arnynt i ystyried
diddordebau'r bobl y maent yn eu cynrychioli?
Dylid hefyd bleidleisio drwy ddangos dwylo, ar lafar neu
ddefnyddio papur pleidleisio neu gofrestriad er mwyn sicrhau tryloywder llawn.
Mae technoleg a'r rhyngrwyd yn gymorth mawr ar gyfer gwaith gweinyddu ac
ymchwil ond ni ddylid dibynnu arnynt, na chaniatáu iddynt ddylanwadu ar y
broses ddemocrataidd a thrafodaeth wleidyddol iach a chadarn yn gyffredinol.
O gymharu, mae Aelodau Cynulliad Gogledd Iwerddon wedi
pleidleisio yn erbyn pleidleisio electronig yn siambr eu Cynulliad hwy. Yn yr
Alban, er y caniateir defnyddio dyfeisiau electronig yn lle nodiadau ar bapur i
siarad yn sesiynau Senedd yr Alban, mae Llywydd Senedd yr Alban wedi gwahardd
defnyddio'r rhyngrwyd.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
•Gorllewin Caerdydd
•Canol De Cymru
Penderfyniadau:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i anfon
sylwadau'r deisebwyr at y Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad i gael eu barn.
Dyddiad cyhoeddi: 02/02/2016
Dyddiad y penderfyniad: 19/01/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad
Dogfennau Cefnogol: