Manylion y penderfyniad

Bil Cymru Drafft

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy

Diben:

Cafodd Bil Cymru drafft ei gyhoeddi gan Llywodraeth y DU ar 20 Hydref 2015. Roedd cyhoeddi’r Bil drafft yn gyfle i graffu ar cynigion cyn i’r Bil gael ei gyflwyno’n ffurfiol yn Senedd y DU.

Diben ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i Fil Cymru Drafft Llywodraeth y DU oedd archwilio, yn benodol:

  • i ba raddau y mae’r model cadw pwerau arfaethedig o gymhwysedd deddfwriaethol yn glir, yn gydlynol ac ymarferol, ac yn darparu fframwaith cryf i alluogi’r Cynulliad i ddeddfu o’i fewn;
  • y profion ar gyfer penderfynu cymhwysedd fel y’u nodir yng nghymal 3 ac Atodlenni 1 a 2 i’r Bil drafft;
  • i ba raddau y mae’r fframwaith newydd arfaethedig yn newid cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu;
  • y pwerau deddfwriaethol arfaethedig sydd ar gael mewn meysydd pwnc penodol o ganlyniad i Atodlenni 1 a 2 i’r Bil drafft;
  • y cynigion i’r Cynulliad gael pwerau dros ei weithrediad (er enghraifft, mewn cysylltiad â’i enw, nifer yr Aelodau Cynulliad a phwerau etholiadol ar gyfer y Cynulliad);
  • y pwerau ychwanegol i’w rhoi i Weinidogion Cymru, yn enwedig i wneud is-ddeddfwriaeth;
  • y cynigion mewn perthynas â pharhauster y Cynulliad a Llywodraeth Cymru;
  • y cynigion mewn perthynas â’r confensiwn ynghylch Senedd y DU yn deddfu ar faterion datganoledig;
  • goblygiadau’r Bil drafft ar gyfer cyfansoddiad y Deyrnas Unedig; ac
  • unrhyw fater arall sy’n ymwneud â’r pwerau deddfwriaethol y mae eu hangen ar y Cynulliad i ddeddfu’n effeithiol.

 

Tystiolaeth

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y pwnc hwn.

Mae’r dystiolaeth hon yn cynnwys gohebiaeth gan Bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a fu’n ystyried sut y gallai effeithio ar y meysydd pwnc y maent yn gyfrifol am graffu arnynt.

Hefyd, cymerodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dystiolaeth mewn cyfarfodydd ffurfiol.

 

Gwaith craffu rhyngseneddol ar y cyd

Bu Pwyllgor Dethol Materion Cymreig Senedd y DU, hefyd yn trafod y ddeddfwriaeth ddrafft. Cynhaliodd y ddau bwyllgor sesiwn dystiolaeth ar y cyd yn y Senedd ar 9 Tachwedd 2015.

 

Adroddiad

 

Cafodd adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad ei gyhoeddi ar 4 Rhagfyr, 2015.

 

Darllenwch ein hadroddiad cryno ar ein hymchwiliad.

 

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr adroddiad ar Fil Cymru drafft ar 13 Ionawr 2016. Gallwch wylio’r ddadl eto ar senedd.tv a gallwch hefyd ddarllen Cofnod y Trafodion.

 

Mae rhagor o wybodaeth am Fil Cymru ar gael ar dudalennau’r Gwasanaeth Ymchwil.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.59

NDM5911 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil Cymru drafft.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM5912 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, os bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â'r amserlen bresennol ar gyfer Bil Cymru drafft, y dylai ymrwymo i gydgrynhoi cyfraith gyfansoddiadol Cymru yn ddwyieithog yn ystod y Senedd bresennol.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM5913 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio Bil Cymru drafft i gael gwared â'r prawf angenrheidrwydd neu osod prawf yn seiliedig ar briodoldeb yn ei le.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM5914 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio Bil Cymru drafft i gynnwys system i ofyn am gydsyniadau Gweinidog y Goron sy'n adlewyrchu'r model yn Neddf yr Alban 1998.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM5915 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio Bil Cymru drafft i leihau'n sylweddol nifer y cymalau cadw a'r cyfyngiadau penodol mewn ffordd sy'n cyd-fynd â deddfwrfa aeddfed, effeithiol ac atebol a fydd yn cael pwerau treth incwm.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM5916 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio Bil Cymru drafft i gynnwys awdurdodaeth benodol fel bod Deddfau Cymru yn berthnasol i Gymru yn unig ac yn addasu cyfraith Cymru a Lloegr fel sy'n briodol i'w gorfodi o fewn rheswm.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 14/01/2016

Dyddiad y penderfyniad: 13/01/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/01/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad