Manylion y penderfyniad

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.05

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5896 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod busnesau bach yn rhan annatod o economïau cenedlaethol a chymunedol Cymru;

2. Yn croesawu'r rôl y mae Dydd Sadwrn Busnesau Bach yn ei chwarae o ran hyrwyddo busnesau bach Cymru;

3. Yn cydnabod y cyfraniad y mae busnesau bach yn ei wneud tuag at sicrhau hunaniaeth cymunedau lleol a hyrwyddo eu diwylliant a'u treftadaeth unigryw;

4. Yn cydnabod bod busnesau bach, lleol yn darparu porth i gyflogaeth i lawer o bobl ifanc; a

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnig pecyn cymorth gwell i fusnesau bach i wella eu cyfraniad i fywyd economaidd-gymdeithasol Cymru;

b) datblygu seilwaith ledled Cymru i wasanaethu rhagolygon twf busnesau bach yng Nghymru yn well.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

7

45

Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 03/12/2015

Dyddiad y penderfyniad: 02/12/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/12/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad