Manylion y penderfyniad
Debate on Benefits of Sharing Personal Health and Social Services Information
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
NDM4856 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod bod rhannu gwybodaeth Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol, gyda chymorth technoleg, yn hanfodol er
mwyn cwrdd ag amcanion ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a sicrhau’r newid i’r system
sy’n angenrheidiol er mwyn darparu iechyd a gofal cymdeithasol integredig a
chynaliadwy sy’n gwella canlyniadau, yn cefnogi pobl mewn angen ac yn darparu
gofal yn agos at y cartref.
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu y bydd cynigion cyllideb ddrafft
cyfredol Llywodraeth Cymru yn methu â rhoi digon o gyllid ar gyfer caffael
systemau technoleg i fanteisio’n llawn ar rannu gwybodaeth Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
5 |
38 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant
1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, er mwyn cynyddu manteision rhannu
gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol, y dylai Llywodraeth
Cymru hwyluso’r broses o ymgorffori hanes gwasanaeth cyn-filwyr yn eu cofnodion
meddygol.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
5 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant
2.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4856 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod bod rhannu gwybodaeth Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol, gyda chymorth technoleg, yn hanfodol er
mwyn cwrdd ag amcanion ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a sicrhau’r newid i’r system
sy’n angenrheidiol er mwyn darparu iechyd a gofal cymdeithasol integredig a
chynaliadwy sy’n gwella canlyniadau, yn cefnogi pobl mewn angen ac yn darparu
gofal yn agos at y cartref.
Yn credu, er mwyn cynyddu manteision rhannu
gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol, y dylai Llywodraeth
Cymru hwyluso’r broses o ymgorffori hanes gwasanaeth cyn-filwyr yn eu cofnodion
meddygol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 23/11/2011
Dyddiad y penderfyniad: 22/11/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/11/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad