Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.07
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5875 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
nodi'r effaith negyddol y gall oedi wrth drosglwyddo gofal ei chael ar y GIG
yng Nghymru ac ansawdd bywyd yr unigolyn;
2. Yn
cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael y cymorth sydd ei
angen arnynt i'w galluogi i aros yn eu cartref eu hunain cyhyd â phosibl; a
3. Yn
credu y gallai cyflwyno'r opsiwn o asesiad 'aros yn y cartref' yng Nghymru ar
gyfer pawb sy'n cyrraedd oedran ymddeol fod yn fesur ymyrraeth cynnar allweddol
a allai atal pobl rhag mynd i'r ysbyty ac atal oedi wrth drosglwyddo gofal ar
ôl gadael yr ysbyty.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
39 |
49 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu
pwynt 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
10 |
49 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd ar unwaith i
sicrhau bod cynifer o welyau â phosibl ar gael yn GIG Cymru, yn enwedig yn
ystod misoedd y gaeaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd Gwelliant 2.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5875 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
nodi'r effaith negyddol y gall oedi wrth drosglwyddo gofal ei chael ar y GIG
yng Nghymru ac ansawdd bywyd yr unigolyn; ac
2. Yn
cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael y cymorth sydd ei
angen arnynt i'w galluogi i aros yn eu cartref eu hunain cyhyd â phosibl.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 19/11/2015
Dyddiad y penderfyniad: 18/11/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad