Manylion y penderfyniad
Debate on the Children's Commissioner for Wales' Annual Report 14-15
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 15.02
Gohiriwyd y bleidlais ar y
Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5873 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad
Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2014-15.
Cyflwynwyd y
Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dderbyn yr
argymhelliad yn yr adolygiad annibynnol o Gomisynydd Plant Cymru gan Dr Mike
Shooter y dylid trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros benodi a chyllido y Comisiynydd
Plant i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lwydd
ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
nodi bod Swyddfa'r Comisiynydd yn 'dal i bryderu ynghylch y diffyg cynnydd
parhaus mewn meysydd allweddol o CAMHS, gan gynnwys argaeledd gwasanaethau
ymyrraeth gynnar; mynediad at CAMHS arbenigol cymunedol, gan gynnwys therapïau
seicolegol; protocolau asesu ac argaeledd triniaeth a chymorth Anhwylderau
Sbectrwm Awtistig; darpariaeth mewn lleoliadau cyfiawnder ieuenctid; a lefel yr
adnoddau a ddyrannwyd i CAMHS'.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
Gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gyflawni ei rhaglen i wella Gwasanaethau Iechyd
Meddwl Plant a'r Glasoed fel mater o frys.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
Gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5873 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad
Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2014-15.
Yn
nodi bod Swyddfa'r Comisiynydd yn 'dal i bryderu ynghylch y diffyg cynnydd
parhaus mewn meysydd allweddol o CAMHS, gan gynnwys argaeledd gwasanaethau
ymyrraeth gynnar; mynediad at CAMHS arbenigol cymunedol, gan gynnwys therapïau
seicolegol; protocolau asesu ac argaeledd triniaeth a chymorth Anhwylderau
Sbectrwm Awtistig; darpariaeth mewn lleoliadau cyfiawnder ieuenctid; a lefel yr
adnoddau a ddyrannwyd i CAMHS'.
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gyflawni ei rhaglen i wella Gwasanaethau Iechyd
Meddwl Plant a'r Glasoed fel mater o frys.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio
Dyddiad cyhoeddi: 18/11/2015
Dyddiad y penderfyniad: 17/11/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad