Manylion y penderfyniad

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.08

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5869 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gwerthfawrogi'r cyfraniad sylweddol y mae pobl hŷn yn ei wneud i fywyd cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru;

2. Yn gwrthod pob math o ragfarn tuag at bobl hŷn yng Nghymru;

3. Yn gresynu nad yw pobl hŷn sy'n dymuno dychwelyd i'r gweithlu yng Nghymru yn gallu cael mynediad at yr un lefel o gymorth â phobl iau;

4. Yn gresynu y gall diffyg mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus rwystro pobl hŷn rhag cael mynediad at gyfleoedd cymdeithasol ac economaidd; a

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl hŷn fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt gyfrannu at fywyd cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

37

47

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at y ffaith yr amcangyfrifir bod nifer y bobl 50 oed a throsodd nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET) tair gwaith cymaint â nifer y bobl NEET o dan 25 oed ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddylunio a gweithredu rhaglen benodol i wella sgiliau a rhagolygon cyflogadwyedd pobl dros 50 nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant .

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

24

47

Gwrthodwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod gan weithwyr iau a gweithwyr hŷn sy'n dymuno dychwelyd i'r gweithlu anghenion gwahanol o ran cymorth cyflogaeth ac y dylai rhaglenni cyflogaeth gael eu cynllunio yn unol â hynny.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

14

47

Derbyniwyd Gwelliant 2.

Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at ffaith y gallai toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol leihau'r lefel o wasanaethau sydd ar gael i helpu pobl hŷn i fyw'n annibynnol.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd Gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5869 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gwerthfawrogi'r cyfraniad sylweddol y mae pobl hŷn yn ei wneud i fywyd cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru;

2. Yn gwrthod pob math o ragfarn tuag at bobl hŷn yng Nghymru;

3. Yn cydnabod bod gan weithwyr iau a gweithwyr hŷn sy'n dymuno dychwelyd i'r gweithlu anghenion gwahanol o ran cymorth cyflogaeth ac y dylai rhaglenni cyflogaeth gael eu cynllunio yn unol â hynny.

4. Yn gresynu y gall diffyg mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus rwystro pobl hŷn rhag cael mynediad at gyfleoedd cymdeithasol ac economaidd; a

5. Yn gresynu at ffaith y gallai toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol leihau'r lefel o wasanaethau sydd ar gael i helpu pobl hŷn i fyw'n annibynnol.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl hŷn fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt gyfrannu at fywyd cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio

Dyddiad cyhoeddi: 12/11/2015

Dyddiad y penderfyniad: 11/11/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad