Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.25
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5854 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
nodi'r rôl hanfodol y mae cysylltedd rhyngwladol yn ei chwarae o ran cynnal twf
economaidd drwy fewnfuddsoddi, masnach a thwristiaeth;
2. Yn
credu y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu cynllun clir i wella cysylltedd
rhyngwladol yng Nghymru;
3. Yn
nodi'r cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy:
a)
dychwelyd Maes Awyr Caerdydd i berchnogaeth breifat; a
b)
rhannu'r enillion o'i werthu rhwng buddsoddi mewn seilwaith a dychwelyd y
buddsoddiad gwreiddiol i drethdalwyr Cymru.
4. Yn
cydnabod y cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy gefnogi'r
rôl bwysig y mae porthladdoedd Cymru yn ei chwarae o ran sicrhau twf a chreu
swyddi;
5. Yn
credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynlluniau clir i wella'r A40 i
Abergwaun a'r A55 i Gaergybi er mwyn gwella cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru;
a
6. Yn
cydnabod ymhellach y rôl y gall rheilffordd Calon Cymru ei chwarae fel coridor
trafnidiaeth ar gyfer canolbarth Cymru, a'i rôl bosibl o ran gyrru cysylltedd
Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
38 |
49 |
Gwrthodwyd
y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bwriad datganedig Llywodraeth Cymru o ganfod
gweithredwr sector preifat ar gyfer Maes Awyr Caerdydd ar adeg ei brynu ac yn
galw am ddiweddariad ysgrifenedig ar gynnydd yn hynny o beth.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
6 |
0 |
43 |
49 |
Gwrthodwyd
Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Elin
Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi'r cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng
Nghymru drwy:
a) cefnogi twf Maes Awyr Caerdydd fel pwynt mynediad i
Gymru; a
b) cefnogi cysylltedd rhwng Cymru a meysydd awyr canolog allweddol
fel Heathrow a Manceinion.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
11 |
49 |
Derbyniwyd
Gwelliant 2.
Tynnwyd Gwelliant 3 yn ôl
Gwelliant 4 – Elin
Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod ymhellach rôl rheilffyrdd Cymru o ran sicrhau
cysylltedd mewnol ac allanol, ac yn cefnogi:
a) datblygu rheilffordd Calon Cymru;
b) trydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru;
c) trydaneiddio prif reilffordd y Great Western a
rheilffyrdd y Cymoedd; a
d) trydaneiddio rheiffordd y Gororau.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
10 |
49 |
Derbyniwyd
Gwelliant 4.
Gwelliant 5 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bylchau sylweddol o ran prosiectau trydaneiddio
rheilffyrdd yng nghynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol Llywodraeth Cymru ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys trydaneiddio llinellau Glyn Ebwy, Ynys y
Barri, Bro Morgannwg, Penarth a Maesteg.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd
Gwelliant 5.
Gwelliant 6 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ddarparu cyllid ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i ailosod cysylltiadau
rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin i gysylltu â'r rhwydwaith sydd
eisoes yn bodoli.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd
Gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5854 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
nodi'r rôl hanfodol y mae cysylltedd rhyngwladol yn ei chwarae o ran cynnal twf
economaidd drwy fewnfuddsoddi, masnach a thwristiaeth;
2. Yn
credu y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu cynllun clir i wella cysylltedd
rhyngwladol yng Nghymru;
3. Yn
nodi'r cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy:
a)
cefnogi twf Maes Awyr Caerdydd fel pwynt mynediad i Gymru; a
b)
cefnogi cysylltedd rhwng Cymru a meysydd awyr canolog allweddol fel Heathrow a
Manceinion.
4. Yn
cydnabod y cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy gefnogi'r
rôl bwysig y mae porthladdoedd Cymru yn ei chwarae o ran sicrhau twf a chreu
swyddi;
5. Yn
credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynlluniau clir i wella'r A40 i
Abergwaun a'r A55 i Gaergybi er mwyn gwella cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru;
a
6. Yn
cydnabod ymhellach rôl rheilffyrdd Cymru o ran sicrhau cysylltedd mewnol ac
allanol, ac yn cefnogi:
a)
datblygu rheilffordd Calon Cymru;
b)
trydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru;
c)
trydaneiddio prif reilffordd y Great Western a rheilffyrdd y Cymoedd; a
d)
trydaneiddio rheiffordd y Gororau.
7. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i
ailosod cysylltiadau rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin i gysylltu
â'r rhwydwaith sydd eisoes yn bodoli.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd
y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 22/10/2015
Dyddiad y penderfyniad: 21/10/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/10/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad