Manylion y penderfyniad
Debate on the Financial Resolution of the Environment (Wales) Bill
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Bil Llywodraeth, a gyflwynwyd gan Carl Sargeant AC,
y Gweinidog Cyfoeth Naturiol. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.
Gwybodaeth am y Bil
Mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:
Cynllunio a rheoli adnoddau naturiol Cymru ar lefel
genedlaethol a lleol;
Rhoi pwrpas cyffredinol i Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n
gysylltiedig â’r 'egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy' a ddiffinnir
yn y Bil;
Gwella'r pwerau sydd ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru
wneud cytundebau rheoli tir a chynlluniau arbrofol;
Rhoi gofyniad ar awdurdodau cyhoeddus i gynnal a gwella
bioamrywiaeth;
Creu fframwaith statudol ar gyfer gweithredu ar newid
hinsawdd, gan gynnwys targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr;
Diwygio'r gyfraith ar godi tâl am fagiau siopa;
Rhoi pwerau i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag
ailgylchu gwastraff (yn cynnwys casglu gwastraff ar wahân); trin gwastraff bwyd
ac adfer ynni mewn busnes;
Gwneud darpariaeth ynghylch sawl gorchymyn mewn
perthynas â physgodfeydd cregyn;
Ffioedd ar gyfer trwyddedau morol;
Sefydlu Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol; a
Newidiadau i'r gyfraith ar ddraenio tir a is-ddeddfau a
wneir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Cyfnod presennol
Daeth Deddf yr Amgylchedd
(Cymru) 2016 (gwefan allanol) yn gyfraith yng Nghymru ar 21 Mawrth 2016 (gwefan allanol).
Cofnod o daith y
Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob
cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Alun Davidson
Rhif ffôn: 0300 200 6339
Cyfeiriad post:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Email: SeneddAmgylch@Cynulliad.Cymru
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 18.26
NDM5850 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau
sy'n deillio o Fil yr Amgylchedd (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn
gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o
ganlyniad i'r Bil.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 21/10/2015
Dyddiad y penderfyniad: 20/10/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/10/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad