Manylion y penderfyniad

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.12

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5831 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r rhan bwysig y mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn ei chwarae mewn profiadau unigolion o wasanaethau cyhoeddus.

 

2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yn barhaus i ddarparu cymorth i awdurdodau lleol er mwyn atal cynnydd mewn biliau treth gyngor;

 

3. Yn nodi mai'r band treth gyngor D cyfartalog yng Nghymru ar gyfer 2015-16 yw £1,328 a bod teuluoedd ar eu colled o £546 yn ystod y pedwerydd Cynulliad o ganlyniad i'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod rhewi'r dreth gyngor;

 

4. Yn credu y bydd pobl yng Nghymru yn amau'r gwerth am arian a ddarperir gan lawer o wasanaethau awdurdodau lleol yn dilyn y cynnydd hwn yn y dreth gyngor; a

 

5. Yn credu ymhellach bod angen gwneud mwy yng Nghymru i fanteisio ar y rôl y gall mudiadau trydydd sector ei chwarae yn y broses o ddarparu gwasanaethau lleol yn effeithiol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

38

49

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pob dim ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

 

Yn gresynu at y goblygiadau ar gyfer gwasanaethau awdurdodau lleol yn y dyfodol os bydd Llywodraeth y DU yn parhau i fynd ar drywydd polisïau llymder.

 

Yn credu y dylai awdurdodau lleol a chymunedau gael y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain i godi cyllid, er mwyn amddiffyn gwasanaethau a swyddi lleol.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

11

49

Derbyniwyd Gwelliant 1.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5831 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r rhan bwysig y mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn ei chwarae mewn profiadau unigolion o wasanaethau cyhoeddus.

 

2. Yn gresynu at y goblygiadau ar gyfer gwasanaethau awdurdodau lleol yn y dyfodol os bydd Llywodraeth y DU yn parhau i fynd ar drywydd polisïau llymder.

 

3. Yn credu y dylai awdurdodau lleol a chymunedau gael y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain i godi cyllid, er mwyn amddiffyn gwasanaethau a swyddi lleol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

11

49

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.

 

Dyddiad cyhoeddi: 01/10/2015

Dyddiad y penderfyniad: 30/09/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 30/09/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad