Manylion y penderfyniad
Debate on Sustainable Social Services
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Yn unol â rheol Sefydlog 11.15 (i), penderfynodd y Llywodraeth y byddai unrhyw bleidlais
angenrheidiol yn digwydd ar ôl
y ddadl.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn.
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu ‘mai'r
egwyddorion a'r blaenoriaethau a bennwyd yn Gwasanaethau Cymdeithasol
Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu yw'r sylfaen o hyd’ a rhoi yn ei le
‘bod gan yr egwyddorion a'r blaenoriaethau a bennwyd yn Gwasanaethau
Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu y potensial’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
27 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi
pwysigrwydd arweinyddiaeth effeithiol ac atebol a bod hyn yn hollbwysig er mwyn
gwella Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
35 |
52 |
Gwrthodwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth
gynigion Llywodraeth Cymru i dorri 5.9 y cant oddi ar Gyllideb Refeniw
Gwasanaethau Cymdeithasol mewn termau real rhwng 2011/12 a 2012/13.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
5 |
27 |
52 |
Gwrthodwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r polisi i ddatblygu Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol newydd
ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r Fframwaith hwn fel blaenoriaeth ar
gyfer gweithredu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi y bydd newidiadau demograffig yn y dyfodol yn rhoi rhagor o bwysau
ar wasanaethau cymdeithasol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i feithrin
cysylltiadau gweithio agosach rhwng adrannau gwasanaethau cymdeithasol a
byrddau iechyd lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r
defnydd a wneir o gyllidebau personol ar gyfer pobl sy'n derbyn gofal er mwyn
iddynt dderbyn rhaglen ofal sy'n addas i angen personol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
35 |
52 |
Gwrthodwyd
gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4848 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod mai'r egwyddorion a'r blaenoriaethau a bennwyd yn
Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu yw'r
sylfaen o hyd ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol
yng Nghymru.
2. Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran cyflawni Gwasanaethau
Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu, gan gynnwys y
trefniadau arwain newydd a roddwyd ar waith.
3. Yn croesawu’r polisi i ddatblygu Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol
newydd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r Fframwaith hwn fel
blaenoriaeth ar gyfer gweithredu.
4. Yn nodi y bydd newidiadau demograffig yn y dyfodol yn rhoi rhagor o
bwysau ar wasanaethau cymdeithasol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i feithrin
cysylltiadau gweithio agosach rhwng adrannau gwasanaethau cymdeithasol a
byrddau iechyd lleol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 16/11/2011
Dyddiad y penderfyniad: 15/11/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/11/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad