Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.05
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5821 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at fethiant parhaus Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro i
gyrraedd ei thargedau allweddol ei hun sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau
cyhoeddus allweddol; a'r canlyniadau niweidiol a gaiff hyn ar bobl Cymru.
2. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos tryloywder llwyr o
ran mesur perfformiad gwasanaethau cyhoeddus.
3. Yn ofni bod symud, ailddiffinio neu addasu targedau sy'n gysylltiedig
â darparu gwasanaethau cyhoeddus yn rhwystro pobl Cymru rhag dwyn Llywodraeth
Cymru i gyfrif yn ddigonol, ac yn ystumio'r craffu hir-dymor ar ei methiant
parhaus.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
10 |
31 |
52 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2:
'gan gynnwys sicrhau bod data
yn cael ei gasglu a'i gyhoeddi mewn modd sy'n sicrhau y gellir cymharu
perfformiad â chenhedloedd eraill'
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5821 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at fethiant
parhaus Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro i gyrraedd ei thargedau allweddol ei hun
sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau cyhoeddus allweddol; a'r canlyniadau
niweidiol a gaiff hyn ar bobl Cymru.
2. Yn credu bod yn rhaid i
Lywodraeth Cymru ddangos tryloywder llwyr o ran mesur perfformiad gwasanaethau
cyhoeddus gan gynnwys sicrhau bod data yn cael ei gasglu a'i gyhoeddi mewn modd
sy'n sicrhau y gellir cymharu perfformiad â chenhedloedd eraill.
3. Yn ofni bod symud, ailddiffinio neu addasu
targedau sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau cyhoeddus yn rhwystro pobl
Cymru rhag dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn ddigonol, ac yn ystumio'r craffu
hir-dymor ar ei methiant parhaus.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei
bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 17/09/2015
Dyddiad y penderfyniad: 16/09/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/09/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad