Manylion y penderfyniad

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.05

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5820 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu at fethiant parhaus Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i fusnesau Cymru.

 

2. Yn mynegi pryder dwfn dros golli swyddi mewn busnesau sy'n derbyn cyllid grant gan Lywodraeth Cymru.

 

3. Yn credu bod y broses o ddiwydrwydd dyladwy a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru cyn darparu cymorth grant ar gyfer busnesau wedi bod yn annigonol.

 

4. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i wario arian cyhoeddus yn effeithiol i gefnogi busnesau Cymru.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad cynhwysfawr o'i methiannau o ran cymorth busnes, gan gynnwys ail-flaenoriaethu er mwyn darparu mwy o gefnogaeth i fusnesau bach a chanolig eu maint.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

41

51

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pob dim ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi anghenion ariannu busnesau Cymru drwy sefydlu banc datblygu busnes i Gymru.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â baich ardrethi busnes drwy ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cyfleoedd masnach newydd i fusnesau yng Nghymru drwy weithredu menter masnach tramor Plaid Cymru.


Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

42

52

Gwrthodwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Mewnosod ar ddiwedd pwynt 5:

 

', gwell mynediad at gyllid a galluogi cymorth a chyngor busnes o ansawdd uchel'

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

10

26

52

Gwrthodwyd Gwelliant 2.

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

Dyddiad cyhoeddi: 17/09/2015

Dyddiad y penderfyniad: 16/09/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/09/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad