Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.40
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5812 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
1. Yn nodi cynigion y
Ceidwadwyr Cymreig i roi hwb i'r cymorth a roddir i brynwyr tro cyntaf; a
2. Yn cydnabod yr angen i
helpu prynwyr tro cyntaf ar yr ysgol dai drwy weithio gyda'r farchnad gyfan i
ddatblygu amrywiaeth o fentrau.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
7 |
29 |
46 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi'r anawsterau sy'n wynebu prynwyr tro cyntaf o dan yr amgylchiadau
economaidd cyfredol.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
10 |
46 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am fodel tai rhentu i brynu newydd ac arloesol i alluogi
tenantiaid i adeiladu cyfran ym mherchnogaeth eu cartrefi drwy eu rhent.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
18 |
23 |
46 |
Gwrthodwyd Gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Elin Jones
(Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod rôl tai
cymdeithasol o ran darparu tai fforddiadwy cost isel, ac nad yw'n briodol i
weithredu polisïau prynu cartref a fyddai'n lleihau'r stoc tai cymdeithasol.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
36 |
10 |
0 |
46 |
Derbyniwyd Gwelliant 3.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5812 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r anawsterau sy'n wynebu prynwyr tro cyntaf o dan
yr amgylchiadau economaidd cyfredol.
2. Yn cydnabod yr angen i helpu prynwyr tro cyntaf ar yr ysgol dai drwy
weithio gyda'r farchnad gyfan i ddatblygu amrywiaeth o fentrau.
3. Yn cydnabod rôl tai
cymdeithasol o ran darparu tai fforddiadwy cost isel, ac nad yw'n briodol i
weithredu polisïau prynu cartref a fyddai'n lleihau'r stoc tai cymdeithasol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
36 |
10 |
0 |
46 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 09/07/2015
Dyddiad y penderfyniad: 08/07/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 08/07/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad