Manylion y penderfyniad
Debate on the Older People's Commissioner Annual Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu camau i warchod pobl hŷn
sydd mewn perygl o niwed neu sy’n methu ag ymdopi; ac i ddiogelu eu hurddas.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i’r heriau a nodwyd yn “Galwadau’r
Comisiynydd”.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaeth eiriolaeth cynhwysfawr a
chyson ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru
a) werthuso cynlluniau lleol, wedi’u hanelu at gynorthwyo pobl hŷn,
sy’n:
i) eu hannog i fabwysiadu ffyrdd iach o fyw ac yn eu galluogi i fyw’n
ddiogel mewn cymuned gefnogol, a thrwy hynny osgoi gorfod aros yn ddiangen mewn
ysbyty; a
ii) hyrwyddo byw'n annibynnol.
b) ymgorffori’r arfer gorau mewn cynllun gweithredu Cymru gyfan ar gyfer
iechyd ataliol.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM4841 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Comisiynydd Pobl Hyn ar gyfer 2010/11, y gosodwyd copi
ohono yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Hydref 2011.
Yn annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu camau i warchod pobl hŷn
sydd mewn perygl o niwed neu sy’n methu ag ymdopi; ac i ddiogelu eu hurddas.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i’r heriau a nodwyd yn “Galwadau’r
Comisiynydd”.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaeth eiriolaeth cynhwysfawr a
chyson ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.
Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru
a) werthuso cynlluniau lleol, wedi’u hanelu at gynorthwyo pobl hŷn,
sy’n:
i) eu hannog i fabwysiadu ffyrdd iach o fyw ac yn eu galluogi i fyw’n
ddiogel mewn cymuned gefnogol, a thrwy hynny osgoi gorfod aros yn ddiangen mewn
ysbyty; a
ii) hyrwyddo byw'n annibynnol.
b) ymgorffori’r arfer gorau mewn cynllun gweithredu Cymru gyfan ar gyfer
iechyd ataliol.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 08/11/2011
Dyddiad y penderfyniad: 08/11/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 08/11/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad