Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.29
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5801 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd safon
uchel o addysg ar gyfer disgyblion yng Nghymru er mwyn cynyddu eu gallu i
gystadlu yn genedlaethol ac yn fyd-eang;
2. Yn credu bod Llywodraeth
Cymru wedi cymryd gormod o amser i ddatblygu mesurau i godi safonau ysgolion
yng Nghymru;
3. Yn credu nad yw consortia
rhanbarthol mor effeithiol ag y mae angen iddynt fod o ran helpu i wella
ysgolion; a
4. Yn credu bod polisi
ieithoedd tramor modern Llywodraeth Cymru o greu canolfannau rhagoriaeth yn
annigonol i fynd i'r afael â'r angen i godi safon y ddarpariaeth ieithoedd
tramor modern mewn ysgolion yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
40 |
53 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin Jones
(Ceredigion)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn credu bod dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â gwella ysgolion wedi bod
yn gymysglyd, gan arwain at oedi ac anghysondeb.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
40 |
53 |
Gwrthodwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Elin Jones
(Ceredigion)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn nodi'r canfyddiad gan yr Athro Donaldson yn ei adolygiad y bydd 'y
gallu i ddysgu ieithoedd tramor modern yn cael ei hybu drwy ddatblygu'r Gymraeg
yn gynharach'.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
17 |
53 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Derbyniwyd gwelliant 2, felly cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5801 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd safon
uchel o addysg ar gyfer disgyblion yng Nghymru er mwyn cynyddu eu gallu i
gystadlu yn genedlaethol ac yn fyd-eang;
2. Yn credu bod Llywodraeth
Cymru wedi cymryd gormod o amser i ddatblygu mesurau i godi safonau ysgolion
yng Nghymru;
3. Yn credu nad yw consortia
rhanbarthol mor effeithiol ag y mae angen iddynt fod o ran helpu i wella
ysgolion; a
4. Yn nodi'r canfyddiad gan yr
Athro Donaldson yn ei adolygiad y bydd 'y gallu i ddysgu ieithoedd tramor
modern yn cael ei hybu drwy ddatblygu'r Gymraeg yn gynharach'.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 02/07/2015
Dyddiad y penderfyniad: 01/07/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/07/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad