Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.57
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5787
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraethu da ac arweinyddiaeth
effeithiol yn y GIG yng Nghymru a'r angen am atebolrwydd i'r cyhoedd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried sefydlu
comisiynwyr iechyd a etholir yn uniongyrchol fel ffordd o gyflawni hyn yn mhob
ardal bwrdd iechyd yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
38 |
48 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi
yn ei le:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ystyried cynrychiolaeth a etholir yn ddemocrataidd ar
fyrddau iechyd fel ffordd o gyflawni hyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
43 |
48 |
Gwrthodwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
9 |
48 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Cynigiwyd
gwelliant 2, felly cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5787
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraethu da ac arweinyddiaeth
effeithiol yn y GIG yng Nghymru a'r angen am atebolrwydd i'r cyhoedd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
9 |
48 |
Derbyniwyd y Cynnig
wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 18/06/2015
Dyddiad y penderfyniad: 17/06/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/06/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad