Manylion y penderfyniad

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.55

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5785 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod dros 45,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia ac y rhagwelir y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu 31 y cant erbyn 2021.

 

2. Yn cydnabod mesurau a weithredwyd gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi mewn gofal dementia a'i wella.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i feysydd o arfer gorau o ran gofal dementia o bob rhan o'r DU a thu hwnt er mwyn gwella cyfraddau diagnosis dementia a mynediad at wybodaeth a chefnogaeth briodol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

39

48

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn cydnabod y cyllid newydd o ychydig dros £5.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

1

48

Derbyniwyd Gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ystâd y GIG mor gyfeillgar â phosibl i bobl sydd â dementia ac i'w gwneud yn ofynnol bod pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn cael hyfforddiant gorfodol mewn ymwybyddiaeth dementia a gofal dementia.


Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd Gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob aelod o staff yn y GIG yn cael hyfforddiant priodol mewn gofal i gleifion â dementia.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd Gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5785 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod dros 45,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia ac y rhagwelir y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu 31 y cant erbyn 2021.

 

2. Yn cydnabod y cyllid newydd o ychydig dros £5.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf.

 

3. Yn cydnabod mesurau a weithredwyd gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi mewn gofal dementia a'i wella.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i feysydd o arfer gorau o ran gofal dementia o bob rhan o'r DU a thu hwnt er mwyn gwella cyfraddau diagnosis dementia a mynediad at wybodaeth a chefnogaeth briodol.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ystâd y GIG mor gyfeillgar â phosibl i bobl sydd â dementia ac i'w gwneud yn ofynnol bod pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn cael hyfforddiant gorfodol mewn ymwybyddiaeth dementia a gofal dementia.

 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob aelod o staff yn y GIG yn cael hyfforddiant priodol mewn gofal i gleifion â dementia.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.

 

Dyddiad cyhoeddi: 18/06/2015

Dyddiad y penderfyniad: 17/06/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/06/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad