Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.03
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5780 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynlluniau’r
Ceidwadwyr Cymreig i wella dealltwriaeth pobl sy'n talu'r dreth gyngor o sut y
mae eu treth gyngor yn cael ei gwario.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gyda chynghorau i wella atebolrwydd o ran gwariant treth gyngor.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i wella tryloywder mewn gwariant llywodraeth leol ledled Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
38 |
48 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod y dreth gyngor yn cynrychioli dim ond oddeutu 14 y cant o
wariant cynghorau yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
10 |
0 |
48 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
sefydlu system drethiant leol gyfiawn sy'n deg, yn fforddiadwy ac sy'n
lleihau'r baich ar y rhai sy'n ei chael hi'n anoddaf i dalu.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
10 |
0 |
48 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5780 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynlluniau’r
Ceidwadwyr Cymreig i wella dealltwriaeth pobl sy'n talu'r dreth gyngor o sut y
mae eu treth gyngor yn cael ei gwario.
2. Yn nodi bod y dreth gyngor
yn cynrychioli dim ond oddeutu 14 y cant o wariant cynghorau yng Nghymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gyda chynghorau i wella atebolrwydd o ran gwariant treth gyngor.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i wella tryloywder mewn gwariant llywodraeth leol ledled Cymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sefydlu system drethiant leol gyfiawn sy'n deg, yn fforddiadwy ac sy'n
lleihau'r baich ar y rhai sy'n ei chael hi'n anoddaf i dalu.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
0 |
10 |
38 |
48 |
Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 11/06/2015
Dyddiad y penderfyniad: 10/06/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/06/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad