Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.53
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5765 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi nad yw Cyllid Cymru yn diwallu anghenion busnesau bach ledled
Cymru a bod mynediad at gyllid yn parhau i fod yn broblem i lawer o fusnesau
bach a chanolig;
2. Yn croesawu'r posibilrwydd o Fanc Datblygu i Gymru, fel y cydnabyddir yn
yr adroddiad a gyhoeddwyd gan yr Athro Dylan Jones-Evans; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau'r cynigion a
amlinellir yn 'Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru' a,
lle y bo'n briodol, ystyried eu hymgorffori yn y gefnogaeth y mae Llywodraeth
Cymru ei rhoi i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
39 |
48 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
TYNNWYD YN ÔL
Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)
Ym
mhwynt 1, ar ôl 'diwallu', mewnosod 'yn llawn'.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
9 |
48 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)
Ym
mhwynt 2, dileu 'Yn croesawu'r posibilrwydd o Fanc' a rhoi yn ei le 'Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sefydlu Banc'.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
9 |
48 |
Derbyniwyd Gwelliant 3.
Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi'r camau y bydd yn eu cymryd i ddatblygu
Banc Datblygu i Gymru sydd wedi'i gynllunio i:
a) cefnogi busnesau bach i gael mynediad at gyllid a chymorth;
b) datblygu cysylltiadau rhyngwladol, gan gynnwys allforio a mewnfuddsoddi;
ac
c) ariannu prosiectau
seilwaith mawr, a fyddai hefyd yn egluro rôl Cyllid Cymru yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
44 |
48 |
Gwrthodwyd Gwelliant 4.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5765 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi nad yw Cyllid Cymru yn diwallu yn llawn anghenion busnesau bach
ledled Cymru a bod mynediad at gyllid yn parhau i fod yn broblem i lawer o
fusnesau bach a chanolig;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Banc Datblygu i Gymru, fel y
cydnabyddir yn yr adroddiad a gyhoeddwyd gan yr Athro Dylan Jones-Evans; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau'r cynigion a
amlinellir yn 'Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru' a,
lle y bo'n briodol, ystyried eu hymgorffori yn y gefnogaeth y mae Llywodraeth
Cymru ei rhoi i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
4 |
48 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio
Dyddiad cyhoeddi: 21/05/2015
Dyddiad y penderfyniad: 20/05/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/05/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad