Manylion y penderfyniad

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.21

 

NDM5755 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod manteision digwyddiadau chwaraeon mawr yng Nghymru;

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati'n weithredol i wneud cais ar gyfer Gemau'r Gymanwlad; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y gwneir y gorau o fanteision i iechyd y cyhoedd, twristiaeth a'r economi yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.

 

Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Dyddiad cyhoeddi: 01/06/2015

Dyddiad y penderfyniad: 13/05/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/05/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad