Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
15.55
Gohiriwyd y
bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5752 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod Cymru wedi elwa o'r cynllun
economaidd hirdymor a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ac yn cydnabod bod dyfodol
economaidd a chymdeithasol Cymru yn dibynnu ar barhad y cynllun hwnnw.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
23 |
33 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y byddai
dyfodol economaidd a chymdeithasol Cymru yn cael budd o Lywodraeth y DU sy'n
cydbwyso'r gyllideb mewn ffordd deg, drwy sicrhau bod y bobl fwyaf cyfoethog yn
talu eu cyfran ac yn mynd i'r afael ag osgoi trethi, gan ein galluogi ni i
fenthyca ar gyfer buddsoddi yn ein heconomi a'n seilwaith, yn hytrach na
pheryglu sefydlogrwydd economaidd drwy fenthyca neu dorri gormod.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
6 |
33 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5752 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod Cymru wedi elwa o'r cynllun
economaidd hirdymor a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ac yn cydnabod bod dyfodol
economaidd a chymdeithasol Cymru yn dibynnu ar barhad y cynllun hwnnw.
Yn credu y byddai
dyfodol economaidd a chymdeithasol Cymru yn cael budd o Lywodraeth y DU sy'n
cydbwyso'r gyllideb mewn ffordd deg, drwy sicrhau bod y bobl fwyaf cyfoethog yn
talu eu cyfran ac yn mynd i'r afael ag osgoi trethi, gan ein galluogi ni i
fenthyca ar gyfer buddsoddi yn ein heconomi a'n seilwaith, yn hytrach na
pheryglu sefydlogrwydd economaidd drwy fenthyca neu dorri gormod.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
23 |
33 |
Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 07/05/2015
Dyddiad y penderfyniad: 06/05/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/05/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad