Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
15.37
Gohiriwyd y
bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5747 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd cefn gwlad Cymru i
economi Cymru;
2. Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r
sector amaethyddol yng Nghymru;
3. Yn galw am roi mesurau sydd wedi'u
cynnwys yn Neddf Lleoliaeth 2011 ar waith yn llawn yng Nghymru fel y gall
cymunedau wneud cais am asedau lleol, fel swyddfeydd post a thafarndai, sy'n
wynebu'r bygythiad o gael eu cau;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu
amserlen ar gyfer cyflwyno gweddill prosiect Cyflymu Cymru, sy'n effeithio ar fusnesau a thrigolion mewn
cymunedau gwledig; a
5. Yn gresynu at gau banciau'r stryd fawr
yng nghefn gwlad Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso trafodaethau ar
fodel bancio cymunedol i sicrhau bod gwasanaethau dros y cownter yn parhau i
fod yn hyfyw yng nghefn gwlad Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
32 |
41 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn croesawu'r cyhoeddiad yng Nghyllideb
Llywodraeth y DU 2015 i ymestyn y cyfnod y gall ffermwyr hunangyflogedig nodi
eu helw fel cyfartaledd o ddwy flynedd i bum mlynedd at ddibenion treth incwm,
gan helpu dros 3,000 o ffermwyr unigol yng Nghymru i gynllunio ar gyfer y
dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
0 |
41 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn croesawu'r ffaith bod cyllid ar gyfer
Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cael ei adfer ac yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gyda'r CFfI i sicrhau ateb cynaliadwy hir dymor.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
0 |
40 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu ardaloedd
gwledig i ffynnu drwy hyrwyddo ffermio cyfran a chynllunio olyniaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
0 |
41 |
Derbyniwyd Gwelliant 3.
Gwelliant 4 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3 a rhoi'r
canlynol yn ei le:
Yn cydnabod yr angen i
ddatblygu dull penodol i Gymru o ymdrin ag asedau cymunedol, sy'n adlewyrchu
anghenion Cymru ac sy'n seiliedig ar ymgynghori eang yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
20 |
41 |
Derbyniwyd Gwelliant 4.
Gan fod gwelliant 4 wedi’i
dderbyn, cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5747 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd cefn gwlad Cymru i
economi Cymru;
2. Yn croesawu'r cyhoeddiad yng Nghyllideb
Llywodraeth y DU 2015 i ymestyn y cyfnod y gall ffermwyr hunangyflogedig nodi
eu helw fel cyfartaledd o ddwy flynedd i bum mlynedd at ddibenion treth incwm,
gan helpu dros 3,000 o ffermwyr unigol yng Nghymru i gynllunio ar gyfer y
dyfodol.
3. Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r
sector amaethyddol yng Nghymru;
4. Yn croesawu'r ffaith bod cyllid ar gyfer
Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cael ei adfer ac yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gyda'r CFfI i sicrhau ateb cynaliadwy hir dymor.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu ardaloedd
gwledig i ffynnu drwy hyrwyddo ffermio cyfran a chynllunio olyniaeth.
6. Yn cydnabod yr angen i ddatblygu dull penodol i
Gymru o ymdrin ag asedau cymunedol, sy'n adlewyrchu anghenion Cymru ac sy'n
seiliedig ar ymgynghori eang yng Nghymru.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu
amserlen ar gyfer cyflwyno gweddill prosiect Cyflymu Cymru, sy'n effeithio ar fusnesau a thrigolion mewn
cymunedau gwledig; a
8. Yn gresynu at gau banciau'r stryd fawr
yng nghefn gwlad Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso trafodaethau ar
fodel bancio cymunedol i sicrhau bod gwasanaethau dros y cownter yn parhau i
fod yn hyfyw yng nghefn gwlad Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
0 |
41 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 30/04/2015
Dyddiad y penderfyniad: 29/04/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 29/04/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad