Manylion y penderfyniad
Debate on the Annual Report on Equality 2013-2014
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.26
NDM5743 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2013-2014
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
cydnabod yr angen i fynd i'r afael â rhwystrau diwylliannol a allai fod yn atal
menywod o leiafrifoedd ethnig rhag rhoi gwybod am drais yn y cartref.
Derbyniwyd
Gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 – Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
nodi â phryder bod nifer yr achosion gwrth-semitig wedi cyrraedd y lefel uchaf
erioed yn y DU y llynedd.
Derbyniwyd
Gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 3 – Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
croesawu ffigurau sy'n dangos bod 23.5 y cant o aelodau bwrdd cwmnïau FTSE 100
yn fenywod.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
6 |
40 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 – Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad cynnydd am sut y bydd mesurau i
sicrhau mynediad cyfartal at ofal iechyd yn cael eu cyflawni ar gyfer pobl sydd
wedi colli eu clyw neu eu golwg.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
0 |
40 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw am astudiaeth d dichonolrwydd annibynnol i sefydlu clinig hunaniaeth o ran
rhywedd yng Nghymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
0 |
40 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i symud at recriwtio dienw yn y sector cyhoeddus pan
fo hynny'n bosibl fel bod pobl yn cael eu barnu ar eu gallu gwirioneddol i
wneud swydd.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
28 |
40 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i ymgorffori hyfforddiant ymwybyddiaeth
ar sail rhyw ym mhob hyfforddiant proffesiynol Tystysgrif Addysg i Raddedigion
a Meistr mewn Addysg a Gyrfaoedd i fynd i'r afael â stereoteipiau rhyw a helpu
i greu amgylcheddau dysgu sy'n ymwybodol o ryw ar draws ysgolion Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
0 |
40 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5743 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2013-2014
2.
Yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael â rhwystrau diwylliannol a allai fod yn
atal menywod o leiafrifoedd ethnig rhag rhoi gwybod am drais yn y cartref.
3.
Yn nodi â phryder bod nifer yr achosion gwrth-semitig wedi cyrraedd y lefel
uchaf erioed yn y DU y llynedd.
4.
Yn croesawu ffigurau sy'n dangos bod 23.5 y cant o aelodau bwrdd cwmnïau FTSE
100 yn fenywod.
5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad cynnydd am sut y bydd mesurau
i sicrhau mynediad cyfartal at ofal iechyd yn cael eu cyflawni ar gyfer pobl
sydd wedi colli eu clyw neu eu golwg.
6.
Yn galw am astudiaeth d dichonolrwydd annibynnol i sefydlu clinig hunaniaeth o
ran rhywedd yng Nghymru.
7.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i ymgorffori hyfforddiant
ymwybyddiaeth ar sail rhyw ym mhob hyfforddiant proffesiynol Tystysgrif Addysg
i Raddedigion a Meistr mewn Addysg a Gyrfaoedd i fynd i'r afael â stereoteipiau
rhyw a helpu i greu amgylcheddau dysgu sy'n ymwybodol o ryw ar draws ysgolion
Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
0 |
40 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 29/04/2015
Dyddiad y penderfyniad: 28/04/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/04/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad