Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
15.12
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5742 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y bu polisïau Llywodraeth y DU ers
2010 yn hanfodol yn y gwaith o adfer economïau'r DU a Chymru;
2. Yn cydnabod ymhellach fod economi gynyddol gryf
y DU wedi tanategu twf yn y sector preifat a chreu dros 2 filiwn o swyddi; a
3. Yn cydnabod mai sector preifat ffyniannus yw'r
sylfaen ar gyfer cynnal ein gwasanaethau cyhoeddus.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
37 |
46 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod rhaglen galedi Llywodraeth y DU
wedi methu yn erbyn ei thelerau ei hun ac yn gresynu at effeithiau economaidd a
chymdeithasol y toriad diangen o 10% yng nghyllideb Cymru ers 2010.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
14 |
46 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu cyfleoedd gwaith newydd ond yn gresynu
at y ffaith bod 17,000 o'r swyddi newydd a grëwyd yng Nghymru ers 2010 wedi bod
yn rhan-amser.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
14 |
46 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r ffaith mai economi'r DU yw'r economi
sy'n tyfu'n gyflymaf o blith gwledydd y G7.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
24 |
47 |
Fel
sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei
bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y Gwelliant. Felly gwrthodwyd y
gwelliant.
Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r ffaith bod treth incwm 1.2 miliwn o
bobl yng Nghymru wedi cael ei dorri o £800, diolch i'r Democratiaid Rhyddfrydol
yn Llywodraeth y DU yn cynyddu'r trothwy lwfans personol.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
9 |
32 |
46 |
Gwrthodwyd Gwelliant 4.
Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod yn rhaid inni fantoli'r cyfrifon yn
deg, gyda buddsoddiad mewn sgiliau uchel, economi carbon isel, dileu'r diffyg
yn y gyllideb strwythurol erbyn 2017-18, sicrhau bod y bobl gyfoethocaf yn talu
cyfran deg drwy gyflwyno treth plasty, ac amddiffyn y mwyaf agored i niwed o
fewn cymdeithas.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
41 |
46 |
Gwrthodwyd Gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5742 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod bod rhaglen galedi Llywodraeth y DU wedi methu yn erbyn ei thelerau
ei hun ac yn gresynu at effeithiau economaidd a chymdeithasol y toriad diangen
o 10% yng nghyllideb Cymru ers 2010.;
2.
Yn croesawu cyfleoedd gwaith newydd ond yn gresynu at y ffaith bod 17,000 o'r
swyddi newydd a grëwyd yng Nghymru ers 2010 wedi bod yn rhan-amser.
3. Yn cydnabod mai sector preifat ffyniannus yw'r
sylfaen ar gyfer cynnal ein gwasanaethau cyhoeddus.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
14 |
46 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 23/04/2015
Dyddiad y penderfyniad: 22/04/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/04/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad