Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.56
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5735
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd a photensial y diwydiannau
creadigol i'n bywyd diwylliannol ac economi Cymru;
2. Yn gresynu at y diffyg eglurder y mae Llywodraeth
Cymru yn ei gynnig mewn perthynas â:
(a) dyfodol y Panel Diwydiannau Creadigol; a
(b) y camau nesaf o ran cyflawni'r blaenoriaethau sydd
wedi eu nodi ar gyfer y sector yn Nghynllun Cyflenwi'r Sectorau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am unrhyw
gynnydd yn y maes hwn yn dilyn Adroddiad Hargreaves;
b) amlinellu unrhyw ymchwil newydd sydd wedi cael ei
gomisiynu mewn perthynas â'i strategaeth ar gyfer y sector diwydiannau
creadigol; ac
c) esbonio sut y mae targedau ar gyfer buddsoddiad
stiwdio Pinewood a'r gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau yn eu cyfanrwydd wedi
cael eu gosod, a nodi manylion ynghylch pa mor llwyddiannus y mae'r
buddsoddiadau hyn wedi bod yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
28 |
46 |
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn croesawu pwysigrwydd datblygiadau fel Stiwdios y Bae
yn Abertawe a datblygiad S4C yng Nghaerfyrddin i'r economïau lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant
1.
Gwelliant
2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu isbwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
gweithio gyda darlledwyr a rhwydweithiau fel y BBC, C4,
ITV ac S4C er mwyn cynyddu cyfleoedd buddsoddi yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant
2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5735
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn nodi pwysigrwydd a photensial y diwydiannau
creadigol i'n bywyd diwylliannol ac economi Cymru;
2.Yn croesawu pwysigrwydd datblygiadau fel Stiwdios y Bae
yn Abertawe a datblygiad S4C yng Nghaerfyrddin i'r economïau lleol.
3. Yn gresynu at y diffyg eglurder y mae Llywodraeth
Cymru yn ei gynnig mewn perthynas â:
(a) dyfodol y Panel Diwydiannau Creadigol; a
(b) y camau nesaf o ran cyflawni'r blaenoriaethau sydd
wedi eu nodi ar gyfer y sector yn Nghynllun Cyflenwi'r Sectorau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am unrhyw
gynnydd yn y maes hwn yn dilyn Adroddiad Hargreaves;
b) amlinellu unrhyw ymchwil newydd sydd wedi cael ei
gomisiynu mewn perthynas â'i strategaeth ar gyfer y sector diwydiannau
creadigol;
c) esbonio sut y mae targedau ar gyfer buddsoddiad
stiwdio Pinewood a'r gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau yn eu cyfanrwydd wedi
cael eu gosod, a nodi manylion ynghylch pa mor llwyddiannus y mae'r
buddsoddiadau hyn wedi bod yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol; a
d) gweithio gyda darlledwyr a rhwydweithiau fel y BBC,
C4, ITV ac S4C er mwyn cynyddu cyfleoedd buddsoddi yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
24 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 26/03/2015
Dyddiad y penderfyniad: 25/03/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad