Manylion y penderfyniad

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.44

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5711 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi haneru'r diffyg ariannol fel cyfran o gynnyrch domestig gros;

 

2. Yn cydnabod bod 41,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru o'i gymharu â 2010 ac mai'r DU oedd y wlad a oedd yn tyfu'n gyflymaf yn y G7 yn 2014; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfrannu at gynllun economaidd hirdymor Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn seilwaith a chreu'r amodau ar gyfer twf yn y sector preifat i greu swyddi a ffyniant.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

35

44

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni ei hamcanion o ddileu'r diffyg yng nghyllideb y DU erbyn 2015 a chynnal ei statws credyd AAA.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

12

44

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn gresynu at y ffaith bod mesurau llymder Llywodraeth y DU wedi arwain at doriad 10% mewn termau real i gyllideb Cymru ers 2010; a'r effeithiau economaidd a chymdeithasol ar gymunedau a theuluoedd yng Nghymru sy'n deillio o hynny.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

12

44

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 2, ar ôl '2014' ychwanegu ', er bod pryderon o hyd ynglŷn â lefel diweithdra ieuenctid ac effaith contractau dim oriau ar  dlodi ymysg pobl sydd mewn gwaith'.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

9

0

44

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn croesawu'r effaith gadarnhaol y mae penderfyniad Llywodraeth y DU i godi'r trothwy treth incwm i £10,500 yn ei chael ar economi Cymru, gan arwain at doriad o £800 yn nhreth incwm 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru, gan arbed 153,000 o bobl rhag talu treth incwm yn gyfan gwbl.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

9

23

44

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio, a mynd i'r afael â diffyg datblygiad yng Nghymru gydag ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru er mwyn adeiladu economi cryfach a thecach i Gymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

32

44

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 3, ar ôl 'ffyniant' ychwanegu 'a nodi bod Llywodraeth Cymru, er gwaethaf toriadau o tua 30% yn y Gyllideb Gyfalaf, wedi parhau i wneud buddsoddiadau cyfalaf sylweddol ledled Cymru i gefnogi'r economi a'r gwasanaethau cyhoeddus'.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

12

9

44

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5711 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni ei hamcanion o ddileu'r diffyg yng nghyllideb y DU erbyn 2015 a chynnal ei statws credyd AAA.

2. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi haneru'r diffyg ariannol fel cyfran o gynnyrch domestig gros;

 

3. Yn gresynu at y ffaith bod mesurau llymder Llywodraeth y DU wedi arwain at doriad 10% mewn termau real i gyllideb Cymru ers 2010; a'r effeithiau economaidd a chymdeithasol ar gymunedau a theuluoedd yng Nghymru sy'n deillio o hynny.

4. Yn cydnabod bod 41,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru o'i gymharu â 2010 ac mai'r DU oedd y wlad a oedd yn tyfu'n gyflymaf yn y G7 yn 2014, er bod pryderon o hyd ynglŷn â lefel diweithdra ieuenctid ac effaith contractau dim oriau ar  dlodi ymysg pobl sydd mewn gwaith;

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfrannu at gynllun economaidd hirdymor Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn seilwaith a chreu'r amodau ar gyfer twf yn y sector preifat i greu swyddi a ffyniant a nodi bod Llywodraeth Cymru, er gwaethaf toriadau o tua 30% yn y Gyllideb Gyfalaf, wedi parhau i wneud buddsoddiadau cyfalaf sylweddol ledled Cymru i gefnogi'r economi a'r gwasanaethau cyhoeddus.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

0

12

43

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 05/03/2015

Dyddiad y penderfyniad: 04/03/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad