Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4817 William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod y system gynllunio yn hanfodol
ar gyfer economi gref, amgylchedd
deniadol a chynaliadwy a democratiaeth lwyddiannus; a
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) Cyflwyno Bil Cynllunio
Cymru yn gynharach na’r hyn a nodir yn
y Datganiad Deddfwriaethol;
b) Cynyddu hyblygrwydd system gynllunio Cymru;
c) Symleiddio canllawiau cynllunio presennol Cymru;
d) Cynyddu cyfraniad cymunedau lleol at y system gynllunio.
Gellir gweld copi o’r Datganiad
Deddfwriaethol drwy ddilyn y linc a ganlyn:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
38 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2 a
rhoi yn ei le:
Yn nodi Datganiad
Ysgrifenedig Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i’r Cabinet, a
anfonwyd drwy e-bost at Aelodau’r Cynulliad ar 30 Medi, yn sefydlu panel
cynghori annibynnol i roi cyngor ar sut y dylid cynnal gwasanaethau cynllunio
yn y dyfodol, a fydd yn llywio’r Papur Gwyn Cynllunio a’r Mesur dilynol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
16 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De
Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai
adolygiad Llywodraeth Cymru o’r system gynllunio hefyd ystyried Cynllun Gofodol
Cymru a’r system cynlluniau datblygu lleol.
Gellir gweld
Cynllun Gofodol Cymru drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://wales.gov.uk/location/strategy/spatial/documents/?skip=1&lang=cy
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
27 |
54 |
Fel sy’n ofynnol
o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw
drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM4817 William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod y system gynllunio yn hanfodol
ar gyfer economi gref, amgylchedd
deniadol a chynaliadwy a democratiaeth lwyddiannus; a
2. Yn nodi
Datganiad Ysgrifenedig Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i’r
Cabinet, a anfonwyd drwy e-bost at Aelodau’r Cynulliad ar 30 Medi, yn sefydlu
panel cynghori annibynnol i roi cyngor ar sut y dylid cynnal gwasanaethau
cynllunio yn y dyfodol, a fydd yn llywio’r Papur Gwyn Cynllunio a’r Mesur
dilynol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
5 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 06/10/2011
Dyddiad y penderfyniad: 05/10/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/10/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad