Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.52
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5687 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod dros 138,000 o
bobl yng Nghymru wedi elwa o'r cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael.
2. Yn gresynu at:
a) bwriad Llywodraeth Cymru i
roi terfyn ar y cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael yng Nghymru;
b) y ffaith bod Llywodraeth
Cymru wedi methu â chyflawni cyflenwad priodol o dai fforddiadwy newydd yng
Nghymru; ac
c) y ffaith bod nifer yr
unedau tai cymdeithasol wedi gostwng ers i Lywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am
dai.
3. Yn galw am raglen ddiwygio
tai gynhwysfawr i gynyddu'r cyflenwad tai a lleddfu problemau o ran
fforddiadwyedd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
38 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod gan gynghorau lleol eisoes yr opsiwn o wneud
cais i Lywodraeth Cymru atal yr hawl i brynu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
1 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2a) newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
10 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried atal yr hawl i
brynu ar gyfer tai cymdeithasol a adeiledir o'r newydd gan gadw hawliau ar
gyfer tenantiaid presennol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
10 |
10 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targedau ar gyfer
nifer y cartrefi fforddiadwy y dylid eu hadeiladu yng Nghymru yn ystod tymor
Cynulliad o fewn chwe mis i etholiad Cynulliad a dylid adrodd arnynt i
Gynulliad Cenedlaethol Cymru bob blwyddyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
9 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5687 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod dros 138,000 o
bobl yng Nghymru wedi elwa o'r cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael.
2. Yn nodi bod gan gynghorau
lleol eisoes yr opsiwn o wneud cais i Lywodraeth Cymru atal yr hawl i brynu.
3. Yn gresynu at:
a) y ffaith bod Llywodraeth
Cymru wedi methu â chyflawni cyflenwad priodol o dai fforddiadwy newydd yng
Nghymru; a
b) y ffaith bod nifer yr
unedau tai cymdeithasol wedi gostwng ers i Lywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am
dai.
4. Yn galw am raglen ddiwygio
tai gynhwysfawr i gynyddu'r cyflenwad tai a lleddfu problemau o ran
fforddiadwyedd.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ystyried atal yr hawl i brynu ar gyfer tai cymdeithasol a adeiledir o'r
newydd gan gadw hawliau ar gyfer tenantiaid presennol.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i osod targedau ar gyfer nifer y cartrefi fforddiadwy y dylid eu hadeiladu yng
Nghymru yn ystod tymor Cynulliad o fewn chwe mis i etholiad Cynulliad a dylid
adrodd arnynt i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bob blwyddyn.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
4 |
10 |
34 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 12/02/2015
Dyddiad y penderfyniad: 11/02/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/02/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad